Dechrau taith glöwr mecanyddol o gwmpas Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y pyped Man Engine
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd taith y Dyn Injan yng Nghernyw

Mae'r pyped mecanyddol mwyaf i gael ei adeiladu ym Mhrydain wedi dechrau ei daith o gwmpas de Cymru ddydd Sul.

Glöwr mecanyddol sy'n mesur 36 troedfedd yw'r pyped ac fe fydd yn cael ei rheoli gan ddwsin o bobl.

Bydd y Dyn Injan yn ymweld â nifer o ardaloedd sydd â chysylltiad gyda'r diwydiant diwydiannol.

Yn amgueddfa lofaol y Big Pit oedd y pyped yn dechrau ei daith cyn mynd ymlaen i waith haearn Blaenafon ar gyfer y seremoni agoriadol.

Dywedodd y gweinidog Twristaidd a diwylliant, yr Arglwydd Elis-Thomas bod hyn yn "gyfle unigryw i ddathlu llwyddiannau ac adlewyrchu ar aberth ein treftadaeth diwylliant."

Dydd Llun: Y pyped yn ymweld â Pharc Bryn Bach yn Nhredegar

Dydd Mawrth: Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil

Dydd Mercher: Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd

Dydd Iau: Y daith yn gorffen yng nghanol dinas Abertawe ac yn ymweld â Gwaith Copr Hafod Morfa.

Ffynhonnell y llun, ELLEN LEACH HUTCHINGS

Ymhlith y cyrff sydd wedi bod ynghlwm gyda'r daith yng Nghymru mae Prifysgol Abertawe, Cadw, Amgueddfa Cymru a chynghorau lleol.

Cafodd £135,000 ei roi fel nawdd gan Croeso Cymru a £25,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Will Coleman, wnaeth greu'r Dyn Injan, bod ganddynt uchelgais i fynd ag ef i'r holl safleoedd diwydiannol a glofaol arwyddocaol ar draws y byd.