Amseroedd aros triniaethau'n hirach yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyfartaledd amser mae cleifion llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon wedi'i ddisgwyl am driniaeth wedi bron dyblu ar draws Cymru.

Fe gododd o 43 diwrnod rhwng Ebrill 2015 a Mawrth 2016 i gyfartaledd o 79 diwrnod ar gyfer yr un cyfnod rhwng 2016 a 2017, yn ôl ffigyrau GIG Cymru.

Y ffigwr ar gyfer Lloegr dros yr un cyfnod oedd 51 diwrnod, ac mae canlyniadau eraill yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi o'i gymharu â dros y ffin mewn chwech o'r 11 prif gategori.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "gweithio i wella amseroedd aros llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon a chyflymu diagnosis".

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

20 wythnos oedd yr amser aros am ddiagnosis o ganser yng Nghymru a Lloegr

Gwelwyd y gwahaniaeth mwyaf yn yr amser mae cleifion yn ei ddisgwyl am lawdriniaethau ar y glun, gyda'r cyfartaledd yng Nghymru'n 215 diwrnod o'i gymharu â 82 diwrnod yn Lloegr.

Mae'r amseroedd aros yng Nghymru ar gyfer triniaeth cataract a hernia, a diagnosis o glefyd ar y galon, hefyd yn llawer hirach na GIG Lloegr.

Ond roedd gan GIG Cymru amseroedd aros byrrach ar gyfer trawsblaniadau arennau ac anafiadau i'r pen.

Fe wnaeth gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr gofnodi'r un canlyniadau ar gyfer diagnosis o ganser.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y ffigyrau "dros flwyddyn oed" ac nad y data yma y maen nhw'n ei ddefnyddio i fesur perfformiad.

"Mae gwelliant wedi bod yn yr amser mae cleifion yng Nghymru'n disgwyl am driniaeth, gyda Mawrth 2017 yn dangos gwelliant o 57% o'i gymharu ag Awst 2015 o ran y ffigyrau 36 wythnos," meddai.

"Fe wnaethon ni fuddsoddi £50m yn rhagor ym mis Awst i leihau amseroedd aros ac rydyn ni'n disgwyl gweld gwelliannau pellach pan fydd yr ystadegau ar gyfer Mawrth 2018 yn cael eu cyhoeddi.

"Rydyn ni'n gweithio i wella amseroedd aros llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon a chyflymu diagnosis ar gyfer cleifion."

Dywedodd cadeirydd cyngor Cymru o Gymdeithas Feddygol Prydain bod "y ffaith bod Cymru ar ei hôl hi eto o'i gymharu â Lloegr yn y mwyafrif o gategorïau yn siomedig".

"Fel mae'r ffigyrau'n dangos, fel gwlad rydyn ni'n mynd yn hŷn ac yn fwy gwael. Yn anffodus dyw'r adnoddau sydd eu hangen i ddelio gyda'r galw cynyddol ddim mewn lle.

"Mae'r broblem yn un syml - does dim digon o ddoctoriaid yn gweithio yn y GIG yng Nghymru i ddelio gyda'r pwysau gwaith cynyddol."