Yr heddlu'n ymchwilio i achos tân angheuol yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
George street, Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw achos y tân wedi ei gadarnhau hyd yn hyn

Mae corff dyn wedi ei ddarganfod yn dilyn tân mewn tŷ yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaethau tân ac ambiwlans eu galw i dŷ ar Heol George am tua 14:10 ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod marwolaeth y dyn yn cael ei drin fel un heb esboniad.

Mae'r llu wedi lansio ymchwiliad i achos y tân.

Does dim cofnod bod neb arall ar goll ac mae'r ffordd rhwng Heol Glanmor a Heol Copperworks bellach wedi ei hailagor.

Digwyddiad 'trasig'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Sean Rees, cynghorydd tref dros ward Glanymor, fod y digwyddiad yn un "trasig".

"Mae'n meddyliau ni yng nghymuned Glanymor gyda theulu a chyfeillion y dyn a gollodd ei fywyd," meddai.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio 101 er mwyn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymoliadau."