Iard ysgol yng Nghonwy yn 'rhy beryglus' i blant

  • Cyhoeddwyd
iard ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd pennaeth llywodraethwyr Glan Gele y gallai plant gael eu hanafu'n ddifrifol

Mae ysgol yng Nghonwy wedi gwahardd plant rhag defnyddio eu hiard chwarae newydd oherwydd pryderon ei fod yn "rhy beryglus" i'w ddefnyddio.

Cafodd iard Ysgol Glan Gele ei ail-osod yn ystod gwyliau'r Pasg gan fod yr hen faes chwarae wedi ei ddifrodi.

Yn ôl pennaeth llywodraethwyr yr ysgol, John Maclennan, mae'r iard newydd fel petai wedi ei osod â "slyri" sy'n cynnwys cerrig mân.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ddisgyblion ddefnyddio ardal chwarae lai, a hynny mewn grwpiau, gan fod yr ardal yn rhy fach i'r holl ddisgyblion.

'Rhy beryglus'

Dywedodd Mr Maclennan fod yr wyneb newydd yn debyg i lwybr beicio a'i fod yn anaddas ar gyfer plant mor ifanc: "Does unman i'r plant redeg o gwmpas."

"Maen nhw'n gorfod aros yn y neuadd neu'r ystafelloedd dosbarth," meddai. "Dydw i ddim yn deall pam fyddai wyneb garw fel hyn yn cael ei ddewis."

Ychwanegodd eu bod wedi penderfynu ei fod yn rhy beryglus gan y gallai'r plant "gael eu hanafu'n ddifrifol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Conwy yn dweud y byddan nhw'n ymchwilio i'r mater

Dywedodd un o rieni'r ysgol ar Twitter fod yr wyneb newydd mor beryglus ac anaddas, fel nad oedd y plant yn gallu mynd allan i chwarae er lles eu diogelwch.

Mewn llythyr, gofynnodd un disgybl chwech oed i'r cyngor wneud yr iard yn ddiogel unwaith eto, er mwyn iddi allu mwynhau chwarae gyda'i ffrindiau heb anafu.

Mae'r llywodraethwyr wedi cysylltu â Chyngor Sir Conwy, ac mae'r cyngor wedi cadarnhau y bydd rhywun yn ymchwilio i sefyllfa'r iard.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor eu bod nhw'n ymwybodol o bryderon ynglŷn â'r iard newydd, a'u bod nhw'n cydweithio gyda'r ysgol a'r adeiladwyr ar y mater.

Nid yw hi'n glir eto pryd fydd yr ymchwiliad yn digwydd.