Arian loteri'n sicrhau dyfodol unig farwdy plwyf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tŷ'r Meirw MochrwdFfynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Bydd unig farwdy plwyf Cymru yn cael ei achub rhag ei ddinistrio yn sgil £50,000 o arian y Loteri Genedlaethol.

Mae'r tŷ'r meirw ym Mochrwyd ym Mhowys ar y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl, ac roedd arbenigwyr wedi rhoi llai na 12 mis iddo oroesi oni bai bod gwaith brys yn cael ei wneud.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn rhan o eglwys ganoloesol Sant Cynog.

Fe fydd y gwaith adnewyddu'n cynnwys adfer ffenestri gwydr plwm, diogelu gwaith maen sy'n cynnwys graffiti o'r 19eg ganrif, ac ailosod y llawr gydag un wedi'i wneud o gerrig bedd wedi'u hailddefnyddio.

Pan gafodd yr eglwys ei hail-adeiladu'n llwyr yn y 19eg ganrif fe gomisiynodd y ficer ar y pryd, Henry de Winton, adeilad ar wahân ar dir yr eglwys i gadw cyrff cyn eu claddu.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Fe wnaeth hynny mewn ymateb i'r gred yn dilyn epidemig colera Llundain yn 1848 bod y clefyd wedi'i achosi a'i ledaenu gan gyrff yn pydru.

Ond roedd codi marwdy yn mynd yn groes i'r diwylliant yn Oes Fictoria - cyfnod o ddwyn cyrff o feddi a'u gwerthu i sefydliadau meddygol er mwyn i fyfyrwyr eu dyrannu a'u dadansoddi,

Er mwyn atal hynny rhag digwydd i'w hanwyliaid, roedd pobl yn arfer cadw'r ymadawedig yn y cartref teuluol nes bod y corff wedi pydru digon.

Arddangosfa, ffilm ac arch

Bydd gwirfoddolwyr yn ymchwilio i arwyddocâd tŷ'r meirw a hanes y plwyf Fictoraidd roedd yn ei wasanaethu gyda'r bwriad o greu arddangosfa yn yr adeilad.

Wedi'r gwaith adfer fe fydd yr hen farwdy yn cael ei agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Bydd ffilm fer ddwyieithog am ddisgwyliad oes, Deddf y Tlodion a meddygaeth yn y cyfnod Fictoraidd hefyd yn cael eu rhannu ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Ac fe fydd atgynhyrchiad o arch plwyf ar gyfer claddu tlodion hefyd yn cael ei harddangos.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae'r cyfle i wireddu'r cynlluniau yn "hynod o gyffrous" yn ôl ficer presennol Eglwys Sant Cynog, Ian Charlesworth.

"Dyma ran gyntaf prosiect dau gam i uwchraddio eglwys Sant Cynog a chynnwys y gymuned yn ei hanes cyfoethog, yn ogystal â hanes y plwyf," meddai.

"Rydym yn edrych ymlaen i ddechrau gweithio i achub Tŷ'r Meirw a chroesawu ymwelwyr newydd."

Arwyddocâd cenedlaethol

Dywedodd Richard Bellamy, pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru ei bod yn "wych bod yr adeilad anarferol a hynod unigryw hwn, sydd â hanes cymdeithasol mor ddiddorol, yn cael ei achub".

"Mae ei arwyddocâd i'r ardal leol ac yn wir i Gymru gyfan - fel yr unig dŷ'r meirw yn y wlad - yn werth ei ddiogelu, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn cael eu hudo gan ei hanes wrth ddysgu mwy am y materion go iawn sy'n ymwneud â bywyd a marwolaeth yn yr oes Fictoraidd."

Yn ôl AS Aberhonddu a Sir Faesyfed, Chris Davies, fe allai'r tŷ'r meirw "fod yn atyniad gwych i'r ardal leol" a fydd "heb os, o ddiddordeb" i bobl leol ac ymwelwyr.