Byw gyda MS: Profiad Radha Nair-Roberts a'i theulu

  • Cyhoeddwyd
Radha Nair-Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Radha, sy'n wreiddiol o Singapore, bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl

Mae Radha Nair-Roberts yn fam i ddau o blant ac yn byw yng Nghaerdydd. Ers deunaw mlynedd mae hi wedi bod yn byw gyda'r cyflwr MS, neu Sglerosis Ymledol.

Trwy gydol yr wythnos hon bydd BBC Radio Cymru yn darlledu cyfres o sgyrsiau gyda Radha a'i theulu yn trafod yr heriau sy'n eu wynebu o ddydd i ddydd.

"O'n i'n deffro un bore, ddim yn gallu defnyddio'r llaw chwith o gwbl, na'r goes chwith chwaith," meddai Radha. "Fel stroke ofnadwy, jysd ffeindio fy hun methu cerdded, methu sefyll.

"O'n i mewn siâp drwg iawn.

"O'n i mewn swydd arbennig o bwysig - gweithio â salwch niwrolegol. O'n i ddim yn disgwyl cael salwch niwrolegol fy hun! Ond dyna beth ddigwyddodd.

"Roedd yn frawychus iawn i ni fel teulu. Roedd rhaid i ni brynu pethau gyda arian ni'n hunain."

Disgrifiad,

Fideo: Radha Nair-Roberts a'i gŵr Tegid yn sôn am eu profiad o fyw gyda MS

Fe gollodd Radha ei gallu i barhau gyda'i swydd. Ond bu rhaid i'w gŵr, Tegid, hefyd roi gorau i'w waith am gyfnod.

"Ddaru rhieni fi stepio fewn a helpu'n ariannol oherwydd o'n i ddim yn ennill dim arian," meddai'r gŵr o Wrecsam.

"A wedyn oedden ni, wrth gwrs, yn byta i fewn i savings ni gyd."

'Gêm ddrud iawn'

Er bod yr ewyllys yno i helpu, mae hi wedi bod yn anodd cael cefnogaeth gan yr awdurdodau.

"O'n i'n colli popeth achos y problemau 'ma gyda ddim yn gallu symud," meddai Radha.

"Mae'n frwydr go iawn i gael help gan y llywodraeth i ddeud y gwir."

"Maen nhw eisiau gwneud, a mae'r ffydd yna i 'neud o," meddai Tegid, "ond y broblem ydi mae'n cymryd gymaint o amser bod yn y pen draw ti'n meddwl: 'Wel na'i fynd allan a cael un. Na'i fynd allan a prynu un.'

"Mae bod yn anabl yn gêm ddrud iawn. Yn ara' deg bach 'da ni yn llwyddo."

Dywedodd Radha: "Mae wedi bod yn frwydr anferth a deud y gwir. Yn arbennig gyda plant.

"Dwi ddim yn gallu mynd i redeg yn y parc gyda nhw dim mwy ond dwi'n ceisio fy ngorau i fod yn fam cariadus."

Gwrandewch ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru rhwng 10:00 a 12:00 drwy gydol yr wythnos hon i glywed mwy gan Radha a'i theulu.

Mae modd gwylio fideos o'r sgyrsiau yn eu cyfanrwydd ar wefan Radio Cymru fan hyn.