Gobaith fod belaod coed yn hybu niferoedd wiwerod coch

  • Cyhoeddwyd
wiwer goch yn Cwrt-y-CadnoFfynhonnell y llun, Prosiect y Wiwer Goch Canolbarth Cymru

Mae cadwraethwyr yn gobeithio y bydd ailgyflwyno belaod coed yn arwain at fwy o wiwerod coch - er mai nhw yw eu hysglyfaethwr naturiol.

Yn yr Alban mae ardaloedd sydd â lefel uchel o felaod coed hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y wiwerod coch, a'r gobaith yw y bydd hynny'n cael ei efelychu yng Ngheredigion.

Roedd pryder y byddai ailgyflwyno'r anifail ysglyfaethus i goedwig Tywi ger Tregaron yn cael effaith niweidiol - ac mae eu presenoldeb eisoes wedi'i gwneud hi'n anoddach monitro'r wiwerod.

Ond mae ymddiriedolaeth natur yn gobeithio mai cwtogi nifer y wiwerod llwyd fydd y belaod coed yn y pen draw, fel maen nhw wedi gwneud mewn ardaloedd eraill.

'Poblogaeth fregus'

Fe wnaeth gwyddonwyr o Brifysgol Aberdeen astudio'r berthynas rhwng y tair rhywogaeth a chanfod bod niferoedd y wiwerod llwyd yn gostwng ble roedd belaod coed yn ffynnu.

Roedd hyn, yn ei dro, yn rhoi mantais gystadleuol i'r wiwer goch, sydd yn anifail llai.

Roedd bele'r coed - sydd yn aelod o deulu'r wenci - yn gyffredin yng Nghymru o'r blaen ond fe wnaethon nhw bron a diflannu'n gyfan gwbl erbyn yr 20fed Ganrif.

Yn 2015 fe wnaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent symud 20 o felaod coed o'r Alban i Geredigion, ac ers hynny mae rhai wedi bridio a rhagor wedi eu symud yno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae belaod coed yn ysglyfaethwyr naturiol i wiwerod

Ond dywedodd Becky Hulme, swyddog wiwerod coch Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, ei bod hi dal yn rhy gynnar i asesu effaith y belaod coed ar wiwerod coedwig Tywi.

Ychwanegodd fod presenoldeb y belaod coed wedi gwneud y wiwerod coch yn fwy swil, ac felly'n anoddach eu monitro.

"Mae'r boblogaeth o wiwerod coch yn fregus ac mae pryder y gallen nhw [y belaod coed] gael effaith negyddol, ond rydyn ni'n croesi'n bysedd," meddai.

"Hyd yn oed os oes rhywfaint o ysglyfaethu yn y safle ffocal [coedwig Tywi], rydyn ni'n gobeithio oherwydd eu heffaith ar y wiwerod llwyd y bydd hynny'n helpu'r wiwerod coch yn ein hardal.

"Rydyn ni'n gobeithio mai dyma fydd yn achub y wiwer goch yng nghanolbarth Cymru achos y dewis arall yw ceisio rheoli'r wiwerod llwyd. Ond allwn ni ddim dweud yn bendant y bydd yn digwydd."