Creu partneriaethau cyn gadael Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Afon LiffeyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwledydd Prydain ydy partneriaid masnach mwyaf Iwerddon

Mae carfan o bobl fusnes o Gymru'n ymweld â Dulyn er mwyn creu partneriaethau newydd cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Byddan nhw'n cyfarfod gyda chwsmeriaid posib ac yn cael cyngor ar fasnachu yn Iwerddon.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2017, fe allforiodd Cymru nwyddau gwerth £955m i Weriniaeth Iwerddon - y bedwaredd wlad uchaf o ran allforion Cymru.

Ond mae Brexit wedi codi cwestiynau dros ddyfodol y cysylltiadau masnach rhwng y ddwy wlad.

Masnach hawdd

Dywedodd cyfarwyddwr Siambr Fasnach Prydain-Iwerddon, Paul Slevin, sydd wedi trefnu'r daith: "Bydd yr ymweliad yma'n adeiladu ar y berthynas arbennig rhwng Cymru ac Iwerddon.

"Ar ôl mis Mawrth 2019 bydd Iwerddon yn wlad yn yr Undeb Ewropeaidd ble mae pobl yn siarad Saesneg a ble bydd cwmnïau Cymreig yn gallu gwneud busnes, ac ond 40 munud o Gaerdydd ar awyren.

"Mae'n eitha' hawdd i gwmnïau fasnachu yn Iwerddon ond hefyd drwy Iwerddon."

Mae Robert Lloyd Griffiths, cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn rhan o'r daith i Ddulyn.

"Y bwriad yw creu partneriaethau gyda busnesau'n Iwerddon a gyda gwleidyddion," meddai.

"Yn y cyfnod hwn mae'n bwysig ail-bwysleisio'r ffaith bod angen datblygu ffyrdd newydd o gydweithio."

'Cryfhau'r bartneriaeth'

Ychwanegodd Mr Lloyd Griffiths bod angen i fusnesau wneud cynlluniau wrth gefn wrth aros am fwy o fanylder am oblygiadau gadael yr UE.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod eisiau "cryfhau" y bartneriaeth gydag Iwerddon wedi Brexit.

Ond mae'n poeni y bydd ymrwymiad Llywodraeth y DU i adael Marchnad Sengl yr UE - sy'n caniatáu i nwyddau a phobl symud yn rhydd rhwng aelodau'r Undeb - yn ei gwneud hi'n fwy anodd i fasnachu rhwng Cymru ac Iwerddon.