Carcharu dynes o Albania am dwyll trawsblaniad £72,000

  • Cyhoeddwyd
ysbytyFfynhonnell y llun, Google

Mae dynes o Albania wedi cael ei charcharu am ddefnyddio dogfennau ffug i gael trawsblaniad aren ar y Gwasanaeth Iechyd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Fatmira Tafa, 31 oed, wedi teithio ar draws Ewrop ar gefn lori er mwyn bod gyda dyn yr oedd wedi ei gyfarfod ar-lein.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd Tafa broblemau gyda'i harennau a derbyniodd drawsblaniad a gostiodd £72,469 i drethdalwyr.

Fe gafodd ei charcharu am 14 mis ar ôl cyfaddef twyll a meddu ar gerdyn adnabod gyda bwriad o ymddwyn yn anonest.

Dim hawl i'r driniaeth

Clywodd y llys fod Tafa wedi honni mai dynes o wlad Groeg oedd hi, cyn dechrau hawlio budd-daliadau fel dinesydd yr UE oedd yn byw yn y DU.

Ym mis Hydref 2016 cafodd drawsblaniad aren yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond nid oedd ganddi hawl gyfreithiol i'r driniaeth.

Ni ddaeth i'r amlwg nad dynes o wlad Groeg oedd Tafa nes iddi fynychu apwyntiad meddygol ym mis Mawrth 2017, lle cyfaddefodd y cyfan o flaen nyrs.

Dywedodd Andrew Davies ar ran yr amddiffyn: "Roedd hi'n wynebu marwolaeth, a petai heb wneud y penderfyniad i gael llawdriniaeth, pwy sy'n gwybod ble y byddai hi nawr."

Yn y cyfamser, mae Tafa wedi gwneud cais ffurfiol i'r Swyddfa Gartref am loches yn y DU, ac mae'n aros i glywed beth yw'r penderfyniad.