Cynllun 'gwres canolog' Caerdydd yn symud gam ymlaen
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad ar gynlluniau i ddarparu gwres o losgydd gwastraff ym Mae Caerdydd ar gyfer adeiladau o gwmpas y brifddinas wedi cael ei gymeradwyo.
Cafodd y cynlluniau eu trafod gan gabinet y cyngor ddydd Iau.
Mae un wedi disgrifio'r cynllun gwerth £26.2m fel "system gwresogi canolog anferth ac adnewyddadwy", a'r gobaith yw lleihau allyriadau carbon y brifddinas.
Ond cyn gosod rhwydwaith o beipiau tanddaearol mae angen arian gan gwmnïau ac adeiladau er mwyn ei redeg.
Fe fydd stêm sy'n cael ei gynhyrchu wrth losgi gwastraff ar safle Parc Trident yn cael ei ddefnyddio i gynhesu dŵr fyddai wedyn yn cael ei bwmpio drwy'r rhwydwaith.
Byddai'r rhwydwaith yn mynd drwy rannau helaeth o Fae Caerdydd cyn mynd tuag at ganol y ddinas.
Gallai adeiladau o'r sector preifat a chyhoeddus gael eu cysylltu, gydag arbedion posib o 5% ar eu biliau ynni.
'Pwnc pwysig'
Cafodd y cynllun busnes cychwynol - sy'n gofyn am fenthyciad o £4m gan y cyngor - ei ystyried gan y cabinet ddydd Iau.
Penderfynwyd ei gymeradwyo, sydd nawr yn golygu paratoi cynllun busnes llawn.
Y gobaith yw denu gweddill yr arian gan grantiau llywodraeth a'r sector preifat.
Mae'r Cynulliad eisoes wedi dweud y byddai'n un o gwsmeriaid y rhwydwaith, a dywedodd eu rheolwr cynaliadwyedd Matthew Jones eu bod "am fod yn rhan o hyn cyn gynted â phosib er mwyn darparu'r gefnogaeth sector cyhoeddus sydd wir ei angen ar y cynllun".
"Mae newid hinsawdd yn bwnc pwysig, ac mae angen ei daclo gyda chynlluniau bach sy'n arbed ynni ynghyd â chynlluniau carbon isel mwy," meddai.