Y Llywydd: 'ACau angen trafod ffrae adroddiad Sargeant'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Cynulliad wedi dweud y dylai ACau pleidiau Cymru ddelio â ffrae dros gyfraith sy'n galluogi i weinidogion orfodi'r llywodraeth i gyhoeddi dogfennau.
Mae gweinidogion Cymru'n dal i fygwth mynd â'r Cynulliad i'r llys, er gwaethaf i gais fethu ddydd Iau i geisio gorfodi'r llywodraeth i gyhoeddi adroddiad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant wedi ei ryddhau i'r cyfryngau.
Mae'r prif weinidog, Carwyn Jones wedi rhybuddio na all llywodraeth barhau os oes modd gorfodi cyhoeddiad pob dogfen.
Ond mae arbenigwr materion cyfreithiol a chyfansoddiadol yn rhybuddio y gallai gymryd peth amser i ailadeiladu ymddiriedaeth rhwng y Cynulliad a'r llywodraeth.
Mae Elin Jones, sydd wedi derbyn cynnig gan y llywodraeth ar sut y gallai'r gyfraith weithio yn y dyfodol, yn credu y dylai'r mater gael ei drafod gan y pwyllgor busnes - sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob plaid.
Bygwth achos cyfreithiol
Ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Jones ysgrifennu at y Llywydd yn bygwth achos cyfreithiol dros ddadl yn galw am gyhoeddi adroddiad i os oedd diswyddiad Mr Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach, wedi'i ryddhau cyn i'r wybodaeth ddod yn gyhoeddus.
Yn y ddadl roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio defnyddio rhan o Ddeddf Llywodraeth Cymru sy'n gallu gorfodi'r llywodraeth i ddatgelu dogfennau gan ddefnyddio pleidlais yn y Cynulliad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio oedi'r ddadl fel y gallai gael eglurder am y gyfraith.
Ond fe wnaeth y Cynulliad gynnal y ddadl er y bygythiad cyfreithiol.
Roedd Mr Jones wedi dweud yn y Senedd ddydd Mawrth: "Os yw pob dogfen yn gallu cael eu rhyddhau, dydw i ddim yn gallu gweld sut y gall llywodraeth barhau."
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg, Andrew RT Davies, gyhuddo Mr Jones o geisio "tawelu'r Cynulliad" a bod "uwchlaw'r gyfraith".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad cyn y ddadl ddydd Mercher bod ganddyn nhw bryderon am ddehongliad y Cynulliad o'r gyfraith dan sylw.
Ychwanegodd y byddai'n "golygu y gallai'r llywodraeth gael eu gorfodi i gyhoeddi gwybodaeth sensitif heb ystyriaeth o unrhyw gyfreithiau neu hawliau eraill".
"Gallai hyn gynnwys manylion personol pobl neu gytundebau masnach cyfrinachol," meddai'r datganiad.
'Ffordd synhwyrol ymlaen'
Ychwanegodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod "wedi cynnig gweithio" gyda Chomisiwn y Cynulliad "i ddatblygu ffordd synhwyrol ymlaen sy'n osgoi'r angen am weithredu'n gyfreithiol".
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad bod y Llywydd wedi derbyn "drafft" gan Lywodraeth Cymru.
"Bydd hi'n ystyried y ddogfen yn fanwl ac awgrymu i Lywodraeth Cymru eu bod yn ei ddefnyddio fel sail trafodaeth gyda'r fforwm priodol, sef y pwyllgor busnes," meddai.
Yn ôl Dr Huw Pritchard o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n arbenigo mewn materion cyfreithiol a chyfansoddiadol, mai dim ond "dan amgylchiadau arbennig" y mae'r gyfraith dan sylw, Adran 37, yn cael ei defnyddio, a bod bygythiad y llywodraeth yn "llawdrwm" ac "unigryw".
"Y prif fater a gafodd ei danlinellu neithiwr oedd yr ymddiriedaeth rhwng y llywodraeth a'r Cynulliad," meddai. "Mae gofyn iddyn nhw ddod i ryw fath o well gyd-ddealltwriaeth."
"Mae'n debygol na welwn ni hynny nes cwblau a chyhoeddi'r holl ymchwiliadau."