Ymchwiliad bwlio: Carwyn Jones 'heb gamarwain' ACau

  • Cyhoeddwyd
carwyn jonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymchwiliad i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad nad oedd Carwyn Jones wedi "camarwain" y Cynulliad.

Dywedodd yr adroddiad gan James Hamilton QC nad oedd y Prif Weinidog "wedi torri'r cod gweinidogol" yn ei atebion ar y mater yn y Senedd.

Ychwanegodd nad oedd "tystiolaeth bendant" fod "awyrgylch wenwynig" a "diwylliant o fwlio" wedi bod o fewn Llywodraeth Cymru.

Roedd Mr Jones wedi'i gyhuddo o gamarwain y Cynulliad pan ddywedodd nad oedd unrhyw honiadau o fwlio wedi cael eu gwneud yn 2014.

Cafodd y cyhuddiadau hynny eu gwneud gan y cyn-weinidog, Leighton Andrews, yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Cwestiwn yn 2014

Fe wnaeth Mr Jones gomisiynu Mr Hamilton, cyn-brif erlynydd Iwerddon ac ymgynghorydd annibynnol i Lywodraeth Yr Alban, ym mis Tachwedd i gynghori a oedd y Prif Weinidog wedi torri'r cod gweinidogol.

Mae'n dilyn awgrym bod Mr Jones wedi camarwain y Cynulliad pan ddywedodd wrth y Ceidwadwr Darren Millar ar 11 Tachwedd 2014, bod "dim honiadau wedi eu gwneud" o ddiwylliant o fwlio ymhlith ymgynghorwyr arbennig yn y tair blynedd blaenorol.

Mewn ymateb wedyn ar 14 Tachwedd 2017 i gwestiynau yn y Senedd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies, dywedodd Mr Jones: "Fe gafodd unrhyw faterion a gafodd eu tynnu i'm sylw ar y pryd eu delio â nhw."

Daeth hynny yn dilyn yr honiadau gan Mr Andrews, a chyn-ymgynghorydd arbennig oedd wedi disgrifio "awyrgylch wenwynig" o fewn y llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw bedwar diwrnod wedi iddo golli ei swydd yn y cabinet

Dywedodd Mr Andrews fod Mr Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw ym mis Tachwedd 2017, "yn darged digamsyniol i rywfaint o'r ymddygiad hwnnw".

Ym mis Tachwedd llynedd dywedodd Mr Millar mai'r rheswm iddo ofyn y cwestiwn yn 2014 oedd am i Mr Sargeant ofyn iddo wneud.

Fe wnaeth Carwyn Jones gydnabod bod yna "ddigalondid" a "blaenoriaethau oedd yn gwrthdaro" o fewn y weinyddiaeth flaenorol, ond bod "dim honiad penodol o fwlio wedi ei gyflwyno erioed" iddo.

Yn ystod ymchwiliad Mr Hamilton fe wnaeth BBC Cymru glywed honiadau fod rhai yn amharod i gyfrannu at yr ymchwiliad rhag ofn iddyn nhw "ddod yn darged".

'Heb gamarwain'

Yn ei adroddiad, dywedodd Mr Hamilton nad oedd wedi canfod "unrhyw dystiolaeth fod adroddiadau neu honiadau o fwlio gan ymgynghorydd neu ymgynghorwyr arbennig wedi'u cyflwyno i'r Prif Weinidog cyn 11 Tachwedd 2014".

Dywedodd fod tri gweinidog - Mr Andrews, Mr Sargeant a Lesley Griffiths - wedi codi pryderon am "agweddau o ymddygiad" ymgynghorydd arbennig, ond nad oedd tystiolaeth bod cwyn o fwlio wedi ei godi ynghylch y mater.

Roedd tystiolaeth o "gwyn" gan Mr Andrews i'r Prif Weinidog ar 19 Tachwedd 2014, ond "does dim tystiolaeth fod modd disgrifio'r mater oedd dan sylw fel un o fwlio, ac fe gafodd yr honiad ei wadu'n gryf gan yr ymgynghorydd".

Ychwanegodd Mr Hamilton nad oedd wedi canfod "tystiolaeth bendant" fod bwlio wedi digwydd o fewn y llywodaeth ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd James Hamilton yn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn Iwerddon rhwng 1999 a 2011

"O ganlyniad, fy nghasgliad yw, gan bod atebion y Prif Weinidog ar 11 Tachwedd 2014 a 14 Tachwedd 2017 yn gywir a gwir, a ddim yn gamarweiniol, wnaeth y Prif Weinidog ddim torri'r Cod Gweinidogol," meddai.

Wrth ymateb i ganfyddiadau'r ymchwiliad dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod ei blaid yn "croesawu" rhyddhau'r adroddiad, gan ei fod yn "gosod cynsail pwysig, yn enwedig yn sgil bygythiad cyfreithiol y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i atal cyhoeddiad adroddiad tebyg i ganlyniad ymchwiliad i ryddhau gwybodaeth yn answyddogol".

Ychwanegodd ei fod "nawr yn disgwyl i Lywodraeth Lafur Cymru gyhoeddi'r adroddiad i ryddhau gwybodaeth heb oedi".

Adroddiad yn 'gwyngalchu'

Wrth ymateb, dywedodd Mr Andrews mai'r "gwyngalchiad disgwyliedig" oedd adroddiad Hamilton, a'i fod yn "unochrog, anghyson ac yn anwybyddu tystiolaeth gan nifer o dystion".

Ychwanegodd: "Roedd Ymchwiliad Hamilton yn ddiffygiol o'r dechrau.

"Fel y gwnaeth y BBC adrodd ym mis Ionawr, roedd sawl tyst posib yn amharod i roi tystiolaeth ac fe wnaeth sawl un, gan gynnwys un gweinidog, ddim rhoi tystiolaeth.

"Nid oedd yn ymchwiliad i fwlio, fel dywedodd Mr Hamilton ei hun: roedd yn ymchwiliad cul yn edrych ar a oedd y Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ddatganiadau ar ddau ddiwrnod penodol.

"Cafodd ei ddylunio gydag un nod - i alluogi i'r Prif Weinidog gael mwy o amser."