Llygedyn o obaith i ymgyrchwyr o gadw ysgol ar agor

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr ymgyrch gwarchod Ysgol Bodffordd
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yr ymgyrch i gadw Ysgol Bodffordd ar agor.

Fe allai ysgol gynradd yn Ynys Môn - sy'n wynebu dyfodol ansicr yn sgil ymgynghoriad ad-drefnu addysg - aros ar agor wedi'r cyfan, pe bai cynghorwyr yn cefnogi un o ddau opsiwn mewn adroddiad fydd yn cael ei drafod yr wythnos nesaf.

Mae Cyngor Môn wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynlluniau i uno ysgolion Henblas, Corn Hir a Bodffordd a chodi ysgol newydd gwerth £10m yn ardal Llangefni.

Mae'r adroddiad yn gofyn i aelodau pwyllgor craffu gymeradwyo un o ddau gynnig - cau'r dair ysgol, neu cadw Ysgol Henblas ar agor yn Llangristiolus, a chodi adeilad llai ar gyfer disbyglion y ddwy ysgol arall.

Ond dyw rhieni plant Ysgol Bodffordd ddim yn hapus gyda'r newid.

Dywedodd Llinos Thomas, un o'r ymgyrchwyr sy'n ceisio cadw Ysgol Bodffordd ar agor: "Beth yw pwynt ymgynghori pan mae'r cyngor yn gofyn am ein barn, mae'r pentref yn ymateb gyda gwrthwynebiad llethol ac eto maen nhw'n bwriadu cau'r ysgol beth bynnag?

'Annheg'

"Fe gafodd y cyngor fwy o ymatebion o Fodffordd nag unrhyw un o'r ardaloedd eraill. Dydw i ddim yn teimlo bod yr adroddiad yn rhoi darlun cywir, mae'n annheg ond rwy'n gobeithio y bydd cynghorwyr yn gwrando arnom."

Mae'r adroddiad o flaen y pwyllgor craffu corfforaethol ddydd Llun yn dod i'r casgliad "nad yw'n bosib cyfiawnhau dyfodol Ysgol Bodffordd" ar sail safonau presennol, maint yr ysgol a chost addysgu disgyblion y pen ar gyfartaledd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi trefnu hysbyseb ar fws lleol ermwyn ceisio achub Ysgol Henblas.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol bron yn llawn gyda 62 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 89% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd.

Mae Ysgol Corn Hir - un o ddwy ysgol gynradd yn Llangefni - yn orlawn gyda 223 o ddisgyblion, ac mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw gwerth £239,500 i'r adeilad gafodd ei godi 32 mlynedd yn ôl.

Yn achos Ysgol Henblas, mae'r adroddiad yn dweud bod dadl bosib dros ei hachub gan y byddai ei chau yn gadael rhan fawr o dde'r ynys heb ysgol gynradd o gwbwl.

Eto i gyd, mae pryderon eraill ynghylch safonau addysgol ac arweiniad yr ysgol, llefydd gwag a gwaith cynnal a chadw gwerth £112,000 i'r adeilad.

'Defnydd gorau o adnoddau'

Pe bai Ysgol Henblas yn aros ar agor, fe fyddai modd addasu cynlluniau fel bod yr ysgol ardal newydd yn derbyn hyd at 330 o ddisgyblion yn hytrach na 450.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Môn yn gwadu cyhuddiad o 'ruthro' i gau ysgolion cyn y daw canllawiau newydd i rym yn yr hydref.

Mewn llythyr agored, mae Cymdeithas yr Iaith yn erfyn ar Gyngor Môn i ohirio penderfyniadau i gau ysgolion nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd.

Mae ysgolion Bodffordd a Henblas yn safleoedd un a naw ar restr yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, o ysgolion gwledig y dylid eu gwarchod dan ganllawiau drafft newydd, a'r mae'r mudiad iaith yn honni bod swyddogion y cyngor yn "rhuthro" i gau ysgolion cyn y daw'r côd i rym yn yr hydref.

Gwadu hynny mae'r cyngor.

Dywedodd llefarydd fod yr awdurdod wedi "ymroddi i ymgynghori ar ei gynlluniau a sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau i ddarparu nifer digonol o lefydd ysgolion a hybu addysg o'r safon uchaf yn ardal Llangefni a phob rhan o'r ynys."