Jane Hutt yn cefnogi Mark Drakeford i arwain Llafur

  • Cyhoeddwyd
Jane Hutt
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Hutt y byddai Mark Drakeford yn "fendith" i Gymru

Mae un o ACau mwyaf profiadol y blaid Lafur wedi cefnogi ysgrifennydd cyllid Cymru fel arweinydd nesaf y blaid, os yw'n dymuno'r swydd.

Dywedodd Jane Hutt y byddai Mark Drakeford yn "fendith" i Gymru.

Mae Ms Hutt yn ymuno â'r ACau eraill Mick Antoniw a Mike Hedges wrth gefnogi Mr Drakeford, sydd dal heb benderfynu a fydd yn ymgeisio am y swydd.

Ddydd Sadwrn cyhoeddodd Carwyn Jones ei fod am roi gorau i'r arweinyddiaeth yn yr hydref.

'Bendith i Gymru'

Ar ôl y cyhoeddiad annisgwyl gan y Prif Weinidog yng nghynhadledd y blaid yn Llandudno mae'r sylw yn dechrau troi at bwy fydd yr arweinydd a'r prif weinidog nesaf.

Does neb wedi cadarnhau y byddan nhw'n sefyll i olynu Mr Jones hyd yn hyn, ond mae Mr Drakeford wedi dweud ei fod yn ystyried y peth o ddifrif.

Dywedodd Ms Hutt ei bod wedi 'nabod Mr Drakeford ers amser maith, yn gweithio ar hen Gyngor De Morgannwg, cyn iddo fod yn ymgynghorydd arbennig iddi pan roedd hi'n weinidog iechyd.

Dywedodd AC Bro Morgannwg y byddai'r arweinydd newydd angen "gonestrwydd" a "phrofiad" yn ogystal â bod yn unigolyn "deallus".

"Dydw i ddim ofn dweud nawr, os yw'n cynnig ei hun, mae gan Mark Drakeford fy mhleidlais i a dwi'n meddwl y byddai'n fendith i Gymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford AC yn cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd, sef hen etholaeth cyn-arweinydd y blaid Rhodri Morgan

Yn gynharach dywedodd yr Arglwydd Peter Hain, cyn-ysgrifennydd Cymru, bod angen i arweinydd nesaf y blaid Lafur roi ysgydwad go iawn i Lywodraeth Cymru a bod yn radical yn nhraddodiad Aneurin Bevan.

Mae Peter Hain wedi gweithio yn agos gyda Carwyn Jones ac mae e'n dweud mai'r her fwyaf i'w olynydd fydd rhoi ysgydwad iawn i lywodraeth Cymru.

Mae'r blaid Lafur wedi bod mewn grym ar ei phen ei hun neu mewn clymblaid ers i'r cynulliad gael ei ffurfio yn 1999.

Dywedodd cyn-AS Castell-nedd: "Yr her fwyaf sy'n wynebu y blaid yw ei bod wedi bod mewn grym ers ffurfio'r cynulliad.

"Mae hynna'n dipyn o gamp, ond yn yr oes sydd ohoni yr hwyaf i chi fod mewn grym - yr anoddaf yw hi i aros mewn grym.

"Rhaid i Lafur Cymru ethol arweinydd radical yn nhraddodiad Nye Bevan."

Ychwanegodd: "Mae gweinyddiaeth y cynulliad angen ysgydwad ac ry'n angen arweinydd sy'n mynd i wneud hynna - un sy'n mynd i sicrhau fod gwasanaeth sifil Cymru yn fwy arloesol ac yn fwy optimistaidd."

Daw sylwadau Arglwydd Hain wrth i'r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd holi a fyddai aelodau Llafur eisiau "dyn gwyn canol oed o Dde Cymru unwaith eto?"

Mae'r dyn sydd yn cael ei ystyried yn geffyl blaen yn y ras am arweinyddiaeth, yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, ei fod yn rhoi "dwys ystyriaeth" i'r mater.

Dyw'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates, y Farwnes Eluned Morgan a'r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles ddim wedi diystyru'r posibilrwydd o sefyll hefyd.

Dywedodd yr Athro Scully os fyddai'r un o'r uchod yn ymgeisio am y swydd, fe allai arwain at benodi dynes, aelod o grŵp ethnig neu aelod Cynulliad o'r gogledd am y tro cyntaf.

"Un cwestiwn fydd llawer o aelodau'r Blaid Lafur yng Nghymru yn gofyn i'w hunain ydy a oes rhaid i'r arweinydd nesa fod yn ddyn gwyn canol oed o Dde Cymru?" meddai.

"Os na, neu os ydy pobl yn meddwl na ddylai fod, yna mae hynny'n agor y ffordd i rywun arall."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Davies AC wedi gwrthod diystyru sefyll ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru

Wrth gael ei holi ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru a fyddai'n ymgeisio am swydd yr arweinyddiaeth, dywedodd Alun Davies AC ei fod yn credu fod hwn yn gyfle i gael trafodaeth enhangach o fewn y blaid.

"Fydda'i ddim yn ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth petai ni ddim yn defnyddio 'OMOV' - un aelod un bleidlais.

"Er enghraifft, dwi ddim isio bod yn rhan o etholiad o dan y coleg etholiaethol 'dy ni wedi ei ddefnyddio - dwi ddim yn meddwl bod hynny'n gweithio a dwi ddim isio bod yn rhan ohono fe.

"Dwi'n ystyried pwy rol fyswn i isio chwarae yn ystod y misoedd nesa. Mae gyda ni wyth mis tan yr arweinydd nesa a dwi'm yn credu bod pobl Cymru isio wyth mis o ymgyrchu etholiadol tu fewn i'r Blaid Lafur.

"Mae pobl gyda hawl i ddisgwyl bo ni'n mynd i lywodraethu yn ystod y cyfnod hynny. Ond mae'r ffaith bod gyda ni 8 mis yn meddwl bod gyda ni gyfle ac ella amser i gael trafodaeth ehangach na jyst amboutu arweinyddiaeth y Blaid Lafur."

'Cyfle da i gael trafodaeth'

Dywedodd y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol bod etholiad yr arweinydd yn gyfle i gael "trafodaeth lawn a gonest ar gynrychiolaeth mewn democratiaeth".

Meddai'r Cyfarwyddwr Jessica Blair: "Dros ddau ddegawd bron o ddatganoli mae Cymru wedi newid yn sylfaenol, wedi dargyfeirio mwy a mwy oddi wrth gweddill y DU yn nhermau polisïau mewn meysydd fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.

"Ond mae gennym ffordd bell i fynd o ran denu pobl i ymddiddori yn ein dyfodol gwleidyddol a chynrychioli yr amrywiaeth eang o bobl sydd yng Nghymru."