Corbyn yn addo dydd Gŵyl Dewi Sant fel gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn

Bydd Dydd Gŵyl Dewi Sant yn ddiwrnod cenedlaethol o wyliau os bydd y blaid Lafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dyna yw addewid yr arweinydd, Jeremy Corbyn.

Os bydd yn cael ei ethol fel y prif weinidog nesaf mae disgwyl i Mr Corbyn ddweud yn ystod ei araith ddydd Llun y byddai yn creu gwyliau cenedlaethol ar draws y DU er mwyn nodi nawddseintiau Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

O dan ei gynlluniau byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi'r syniad i ganiatáu diwrnodau ychwanegol o wyliau.

Angen cefnogaeth llywodraethau

Nid dyma'r tro cyntaf i Mr Corbyn ddweud y byddai yn rhoi diwrnodau o wyliau ychwanegol i weithwyr Prydain.

Fe wnaeth yr un addewid y llynedd cyn yr etholiad cyffredinol hwnnw ond wnaeth y blaid ddim llwyddo i gipio grym.

Byddai yn rhaid i'r holl lywodraethau datganoledig gefnogi'r pedwar diwrnod o wyliau ar draws y DU er mwyn i'w gynlluniau gael eu gwireddu.

Bydd Jeremy Corbyn yn dweud wrth gynhadledd yn Bournemouth bod gweithwyr Prydain yn haeddu diwrnod arall i ffwrdd o'r gwaith.

Mae cynigion tebyg wedi eu crybwyll yn y gorffennol gan Lafur Cymru, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol.