Galw am ymchwiliad i wariant elusen iechyd Awyr Las

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Awyr Las wedi'i lleoli yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor

Mae 'na alw ar elusen iechyd i ystyried gwahodd ymchwilwyr i weld a yw'n camddefnyddio arian y mae'n casglu i gefnogi gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Awyr Las yn defnyddio'r rhoddion ariannol y mae'n eu derbyn i brynu pob math o offer a chyfleusterau - o beiriannau arbenigol i gadeiriau mwy cyfforddus mewn adrannau brys - ac i gefnogi prosiectau, gwasanaethau, therapïau a hyfforddiant staff.

Ond mae BBC Cymru wedi darganfod ei bod hefyd wedi cytuno i dalu £450,000 am raglen dwy flynedd i wella'r berthynas rhwng rheolwyr a staff.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod addysg staff yn "un o bedwar categori gwariant cyfreithlon o waith yr elusen".

Pryderon AC

Cafodd y strategaeth perthynas staff sêl bendith y bwrdd iechyd yn 2016 a'i datblygu ar gais Llywodraeth Cymru wedi i'r bwrdd iechyd fynd i fesurau arbennig.

Roedd y strategaeth yn annog gwell cyswllt rhwng staff a rheolwyr ac yn gwella boddhad a lles staff, ond doedd dim sôn pwy ddylai dalu amdani.

Y llynedd fe gododd Awyr Las bron i £2.5m mewn rhoddion ac etifeddiaethau, gan roi grantiau gwerth £1.3m.

Mae'r rhestr ddiweddaraf o'r hyn y mae Awyr Las wedi ymrwymo i'w ariannu yn cynnwys cynllun darparu ffrwythau a llaeth, £35,000 am wigiau ar gyfer cleifion dermatoleg a 30 o gadeiriau olwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Wedi "synnu" mae AC Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd gyda sut mae'r arian yn cael ei wario

Yn ôl un o ACau'r gogledd, "nid dyma'r math o bethau y byddai pobl yn disgwyl i Awyr Las ei ariannu".

Dywedodd AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd: "Mae Awyr Las yn gwneud llawer o waith da a phwysig yn darparu offer a gwasanaethau angenrheidiol sy'n rhoi budd uniongyrchol i gleifion ar draws gogledd Cymru.

"Ond siawns bod ymgysylltu â staff a chreu holiaduron a threfniadau cofnodi cwynion... Dyna waith a chyfrifoldeb craidd y bwrdd iechyd a dylai hynny ddim amsugno adnoddau pwysig corff elusennol fel Awyr Las."

Angen 'tryloywder'

Mae wastad ffin "annelwig", medd yr ymgynghorydd elusennol arbenigol, Martin Price, rhwng yr hyn sy'n elusennol a'r hyn y dylai bwrdd iechyd fod yn gyfrifol amdano.

"Er mwyn cael mwy o eglurder, mae'n rhaid cael tryloywder yng ngwir ystyr y gair o ran sut mae'r arian yn cael ei wario," meddai.

"Mae swm mawr fel £500,000 ar ymgysylltu â staff yn edrych i mi fel rhywbeth y gallai fod o ddiddordeb i'r Comisiwn Elusennau petai'n dod i'w sylw."

Ymateb y bwrdd Iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Bydd unrhyw gyfraniad sy'n cael ei wneud i ward neu wasanaeth penodol yn cael ei roi yn uniongyrchol i'r adran honno.

"Drwy sicrhau bod staff bwrdd iechyd wedi'u hyfforddi ac yn cael eu cefnogi, mae safon y gofal a ddarperir i gleifion yn gwella.

"Tra bod y bwrdd iechyd eisoes yn darparu ehangder o hyfforddiant, mi all cronfeydd elusennol ychwanegu mwy o gyfleusterau a chefnogi hyfforddiant ychwanegol i ehangu gwybodaeth staff ac i ddod â syniadau newydd i'r bwrdd iechyd."