Iâr newydd yn dodwy ŵy yn nyth Gweilch y Dyfi

  • Cyhoeddwyd
Blue 3J a'r wyFfynhonnell y llun, Ymddiredolaeth Natur Maldwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Blue 3J yn creu hanes am mai hi ydy'r iâr gyntaf i ddodwy ŵy yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr

Mae iâr newydd wedi dodwy ŵy yn nyth Gweilch y Dyfi, wrth i wirfoddolwyr barhau i aros i Glesni, partner hir dymor y ceiliog, Monty, ddychwelyd wedi'r gaeaf.

Cafodd yr ŵy cyntaf ei ddodwy 16 diwrnod ar ôl i'r iâr, sy'n cael ei hadnabod fel Blue 3J gyrraedd y nyth a dal sylw Monty.

Mae Glesni dair wythnos yn hwyr yn cyrraedd, ac er bod rhai gweilch mewn rhannau eraill o Brydain wedi cyrraedd eu nythod yn hwyrach na'r arfer eleni, ofnau'r gwirfoddolwyr ydy bod Glesni wedi marw.

Mae disgwyl i Blue 3J ddodwy un, os nad dau, ŵy arall rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn.

Opera sebon y gweilch

Yn hanesyddol mae'r adar yn dychwelyd i'r un nyth bob blwyddyn i ddodwy a magu cywion.

Mae Glesni wedi magu 12 cyw ers iddi gyrraedd y nyth am y tro cyntaf yn 2013 a bridio gyda Monty.

Cyn hynny roedd Monty wedi cynhyrchu pedwar cyw gyda gwalch arall o'r enw Nora.

Disgrifiad,

Ŵy cynta i iâr newydd y Gweilch Dyfi

Petai Glesni yn dychwelyd, yna fe fyddai hi'n ceisio cicio'r ŵy newydd allan o'r nyth, a disodli Blue 3J fel yr iâr i fridio gyda Monty.

Ond yn ôl Janine Pannett, sy'n swyddog datblygu gwirfoddolwyr gydag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, mae'n edrych yn annhebygol iawn erbyn hyn fod Glesni am ddychwelyd i'r Dyfi.

"Dyma ydy nyth Glesni," meddai.

"Dim ond un esboniad posib sydd pam nad yw hi wedi dychwelyd i'r nyth, sef ei bod hi wedi marw, achos mae gweilch yn dychwelyd i'r un nyth i fridio a dodwy.

"Dydyn ni ddim yn gwybod i ble yn union yn Affrica mae'n gweilch ni'n mynd pan maen nhw'n ein gadael ni ar ddiwedd y tymor, felly er bod ganddi fodrwy ar ei choes, efallai na fyddwn ni fyth yn dod o hyd iddi."

Mae'r iâr newydd, Blue 3J, yn gyfnither i Glesni. Cafodd y ddwy eu magu yn nythod Ymddiriedolaeth Rutland yng nghanolbarth Lloegr.

Fe gyrhaeddodd yr ŵy cyntaf ddydd Sul, 22 Ebrill, ac mae disgwyl i Blue 3J ddodwy o leiaf un arall, i'w ddisgwyl dydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Ymddiredolaeth Natur Maldwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dros y dyddiau nesaf mae disgwyl i Blue 3J (chwith) ddodwy o leiaf un ŵy arall

Nid dyma'r tro cyntaf i Blue 3J ddodwy ŵy. Fe lwyddodd hi a cheiliog arall gynhyrchu ŵy mewn nyth yn Rutland yn 2016, cyn i bâr o wyddau eu disodli nhw, a'r ŵy, o'r nyth.

Ond hi ydy'r gwalch cyntaf i ddodwy ŵy yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae hi'n cymryd rhwng 35 a 42 diwrnod i gyw ymddangos o'r ŵy.

Enwi Blue 3J

Yn ôl prosiect Gweilch y Dyfi, os na fydd Glesni yn dychwelyd erbyn y penwythnos yna fe fyddan nhw'n meddwl am enwi'r iâr newydd.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn annog aelodau o'r cyhoedd i gynnig enwau ar eu tudalennau ar wefannau cymdeithasol.

"Er bod Blue 3J wedi cael ei magu yn Rutland, mae ganddon ni'r dewis nawr o beth i'w henwi hi," meddai Ms Pannett.

"Ers i'r ŵy cyntaf ymddangos, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy'n dod yma i'r warchodfa ger Machynlleth, ac mae yna ddiddordeb cynyddol hefyd ar ein gwefannau cymdeithasol a'n blog.

"Fe fyddwn ni'n creu rhestr fer ac yna'n gofyn i bobl bleidleisio am eu hoff enw."