Asgellwr Cymru, George North i ymuno â'r Gweilch
- Cyhoeddwyd
Bydd George North yn ymuno â'r Gweilch ar ddiwedd y tymor wedi iddo adael Northampton.
Mae'r asgellwr wedi arwyddo i'r rhanbarth o Abertawe ar gytundeb deuol, sy'n golygu y bydd Undeb Rygbi Cymru yn talu 60% o'i gyflog.
Bydd y chwaraewr 26 oed yn dychwelyd i Gymru bum mlynedd ar ôl gadael y Scarlets am Northampton.
"Mae'n gyffrous ymuno â'r Gweilch a dechrau pennod newydd yn fy ngyrfa pan fyddai'n dychwelyd i Gymru," meddai.
Roedd y Dreigiau a'r Gleision hefyd wedi mynegi eu diddordeb yn yr asgellwr, sydd wedi ennill 73 o gapiau dros Gymru a thri gyda'r Llewod.
Fe wnaeth ei gyn-ranbarth, y Sacrlets, ddatgan nad oedden nhw am ei ailarwyddo.
Roedd North wedi cytuno dod 'nôl i Gymru ym mis Tachwedd, wedi iddo sicrhau cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.
'Dyfodol cyffrous'
"Rwy'n meddwl bod gan y Gweilch ddyfodol cyffrous gyda'r strwythur a'r recriwtio sydd mewn lle yno, ac rwy'n edrych 'mlaen at ymuno ag Allen Clarke [yr hyfforddwr[ a'r garfan yn yr haf," meddai North.
"Roedd yn benderfyniad positif i arwyddo cytundeb deuol gyda'r gefnogaeth a'r strwythur mae hynny'n ei roi.
"Fe wnes i weithio gyda'r undeb i benderfynu ar ranbarth ac rydw i eisiau diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â'r broses.
Ychwanegodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips bod "cael George yn dychwelyd adref i Gymru yn hwb mawr i rygbi Cymru a'r Gweilch".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017