Cytundeb ar Fesur Ymadael Brexit 'ddim yn berffaith'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw'r cytundeb rhwng Llywodraethau'r DU a Chaerdydd ar Brexit "yn berffaith".
Roedd Mark Drakeford AC yn siarad yn y Senedd ddiwrnod wedi i'r llywodraethau ddod i gytundeb ar yr anghydfod am "gipio pwerau" o Fae Caerdydd.
Wedi misoedd o drafod rhwng gweinidogion y ddwy lywodraeth, fe gytunon nhw ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE.
'Canlyniad aeddfed'
Wrth annerch Aelodau Cynulliad ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford y byddai wedi bod yn well ganddo "beidio â chael Cymal 11, ac i bob llywodraeth ymddiried yn ei gilydd i beidio deddfu mewn meysydd yr ydyn ni'n cytuno sydd angen fframweithiau ar draws y DU, hyd nes bod cytundeb ar fframweithiau o'r fath".
Fodd bynnag, dywedodd fod y cytundeb yn cynrychioli cynnydd sylweddol iawn o'i gymharu gyda lle'r oedden nhw ychydig wythnosau yn ôl: "Mae wedi golygu cyfaddawdu ar y ddwy ochr.
"Crefft trafod yw bod yn fodlon i addasu safbwynt cychwynnol pan fo'ch cyfatebwyr yn fodlon gwneud hynny hefyd.
"Dyna beth yr ydyn ni wedi ei wneud ac rydw i'n credu bod y canlyniad yn gytundeb aeddfed rhwng llywodraethau sy'n parchu buddiannau ei gilydd".
Croesawu'r canlyniad wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig, ond unwaith eto, cyhuddodd Plaid Cymru y llywodraeth o "ildio" i Lywodraeth y DU.
"Mae ein dylanwad wedi mynd, arweinyddiaeth wedi'i golli a'n senedd wedi ei gwanhau," meddai'r arweinydd Leanne Wood.
Dywedodd arweinydd UKIP, Neil Hamilton, fod y cytundeb "yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol".
Trosglwyddo grymoedd
Yn unol â'r cynnig newydd, byddai'r rhan fwyaf o 64 o bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n cael eu rheoli gan yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ar hyn o bryd, yn cael eu trosglwyddo i Gaerdydd wedi Brexit.
Byddai'r gweddill - cyfanswm o 24 - yn mynd i San Steffan am gyfnod o hyd at saith mlynedd, fel y gall systemau ar draws y DU gael eu creu ar gyfer materion fel labeli bwyd.
Mae'r cytundeb yn cynnwys cytundeb gwleidyddol, nid cyfreithiol, y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gytundeb y Cynulliad cyn newid unrhyw un o'r grymoedd fydd yn cael eu cadw yn Llundain.
Yn gynharach, fe groesawodd y Prif Weinidog Theresa May y cytundeb, gan ddweud ei fod yn rhoi "sicrwydd cyfreithiol" ac yn parchu "setliadau datganoledig".
"Rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r bil i adlewyrchu materion gan aelodau a gan y gweinyddiaethau datganoledig," meddai
"Mae wir yn siom nad yw Llywodraeth yr Alban eto'n teimlo y gallan nhw roi eu cytundeb i'r gwelliannau newydd, ac rydym yn gobeithio'n ddidwyll y byddan nhw'n ailystyried eu sefyllfa," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018