Diffyg polisïau i helpu'r byddar gael gwasanaethau
- Cyhoeddwyd

Does gan bron i hanner awdurdodau lleol Cymru ddim polisïau ffurfiol i helpu pobl byddar sy'n defnyddio arwyddiaith i gael mynediad i wasanaethau, medd adroddiad.
Yn ôl adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae nifer yn wynebu rhwystrau ieithyddol a chyfathrebu wrth drio defnyddio gwasanaethau iechyd a gwanasanaethau'r cyngor.
Mae'n galw am welliannau i sicrhau mynediad cyfartal i bawb trwy ddarparu cyfieithwyr a dehonglwyr yn effeithlon, gan nodi bod o leiaf un bwrdd iechyd ac un ymddiriedolaeth iechyd hefyd heb bolisïau penodol.
Mae'r adroddiad yn dweud bod pob un o'r 15 o gynghorau a saith corff y GIG a ymatebodd i gais am wybodaeth "wedi darparu rhywfaint o hyfforddiant i rai o'u staff o leiaf, fel hyfforddiant ac arweiniad wyneb yn wyneb yn ogystal ag arddangos posteri, e-hyfforddi a rhoi gwybodaeth ar eu mewnrwyd.
"Fodd bynnag, roedd gan lai na hanner y sefydliadau a ymatebodd bolisi ffurfiol yn manylu ar eu dyletswyddau ac/neu hawliau dinasyddion yn gysylltiedig â dehongli a chyfieithu.
"Roedd manylder y polisïau yn amrywio, ond roedd pob un ohonynt yn darparu gwybodaeth am y broses o archebu gwasanaeth dehongli a chyfieithu."
7,200 yn defnyddio arwyddiaith
O'r 15 awdurdod lleol wnaeth ymateb i'r alwad am dystiolaeth yn ystod Haf 2017, doedd gan 10 ddim polisi ffurfiol, a dywedodd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Conwy, Casnewydd a Thorfaen eu bod wedi cyflwyno polisïau.
Cadarnhaodd tri bwrdd iechyd - Betsi Cadwaladr, Hywel Dda ac Aneurin Bevan - bod ganddyn nhw bolisïau'n ymwneud â chyfieithu a dehongli.

Mae adroddiad 'Siarad Fy Iaith' yn awgrymu bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu rhestr wirio er mwyn gwella'u gwasanaethau ar gyfer yr 84,500 o bobl yng Nghymru sy'n dweud nad Cymraeg na Saesneg yw eu prif iaith, a'r 7,200 o bobl sy'n defndyddio arwyddiaith oherwydd cyflyrau fel problemau clyw.

Mae'r rhestr wirio'n cynnwys:
Deall anghenion cyfathrebu'r boblogaeth leol;
Polisïau a gweithdrefnau;
Dod o hyd i wasanaethau dehongli a chyfieithu;
Hyfforddiant ar gyfer staff;
Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn y safonau presennol o fewn y GIG er mwyn gwella'r sefyllfa, ac y dylien nhw weithio gyda chyrff cyhoeddus, grwpiau perthnasol ac eraill sy'n ymwneud â darparwyr cyfieithu a dehongli er mwyn gwella safon y gwasanaethau a phrosesau gwarchod defnyddwyr.
'Rhywfaint o arfer arloesol'
Yn ôl yr adroddiad, fe wariodd cyrff cyhoeddus yng Nghymru £2.2m ar wasanaethau cyfieithu a dehongli gan Wasanaeth Cyfieithu Cymru (GCC) yn 2016-2017, yn ogystal â defnyddio contractwyr preifat a thrydydd sector.
Yn ystod 2016-17, derbyniodd GCC geisiadau am ddehonglwyr a chyfieithwyr mewn 82 iaith, a'r galw mwyaf am Bwyleg (4,420), Arabeg (4,381) ac arwyddiaith (2,773).
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett: "Mae angen i wasanaethau cyhoeddus sicrhau y gall pawb gael mynediad iddynt, beth bynnag yw eu hangen iaith neu gyfathrebu.
"Er bod rhywfaint o arfer arloesol ledled Cymru, mae'n amlwg y gall cyrff cyhoeddus wneud mwy i ystyried anghenion y rhai sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu ac ymateb i'r anghenion hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd14 Medi 2017