Galw am glywed y Gymraeg yn rheolaidd yn Nhŷ'r Cyffredin
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai'r iaith Gymraeg gael ei defnyddio yn rheolaidd yn siambr Tŷ'r Cyffredin yn San Steffan, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Cymreig.
Mae AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, wedi ysgrifennu at Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, yn galw ar Lywodraeth y DU i "gymryd y cam pwysig hwn".
Mae gan ASau yr hawl i siarad Cymraeg mewn rhai dadleuon Seneddol, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Uwch-bwyllgor Cymreig.
Disgrifiodd llefarydd ar ran Arweinydd y Tŷ yr awgrym fel un "diddorol" gan ddweud ei bod yn hapus i "drafod y mater ymhellach".
Cafodd y Gymraeg ei defnyddio am y tro cyntaf mewn dadl Seneddol yn San Steffan ym mis Chwefror.
"Ar ôl codi'r mater yn y Siambr Ddydd Gŵyl Dewi, rydw i wedi ysgrifennu at Arweinydd Tŷ'r Cyffredin yn gofyn iddi gwrdd â mi i drafod y posibilrwydd o siarad Cymraeg yn y Siambr," meddai Mr Brennan.
"Mae'r iaith Gymraeg yn allweddol i'n hunaniaeth ac ein treftadaeth, felly 'dwi'n gobeithio bod y Llywodraeth yn cytuno ei fod yn amser cymryd y cam pwysig hwn."
Dywedodd llefarydd ar ran Mrs Leadsom: "Mae'n gywir mai Saesneg yw, ac a ddylai fod, iaith Tŷ'r Cyffredin oherwydd mae'n allweddol bod y trafodaethau yn ddealladwy i bobol ar draws y Deyrnas Unedig.
"Ond fel mae Arweinydd y Tŷ wedi'i ddweud yn y siambr, mae hi wastad yn hapus i drafod y mater ymhellach".
Mae'r gost o gyfieithu ar hyn o bryd yn dod o gyllidebau presennol y Senedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2018