Pryder am ddarlledu ffilm gan droseddwr yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sydd wedi dioddef trais yn y cartref wedi lleisio'i phryderon fod ffilm gafodd ei greu gan ei chyn-bartner wedi ei dangos yn y Cynulliad.
Cafodd y ffilm ddogfen Injustice, sy'n trafod diwygio carchardai, ei dangos ym mis Ionawr mewn digwyddiad oedd wedi ei noddi gan yr AC annibynnol, Neil McEvoy.
Dywedodd Mr McEvoy fod aelodau Plaid Cymru wedi gofyn iddo gynnal y digwyddiad, ac nad oedd yn ymwybodol o gefndir y cyfarwyddwr.
Mae Mr McEvoy wedi ei wahardd o'r blaid am 18 mis.
Doedd Plaid Cymru ddim eisiau gwneud sylw ar y mater.
Dywedodd Comisiwn y Cynulliad mai'r aelod sy'n noddi'r digwyddiad sy'n gyfrifol am y digwyddiad.
'Ddim yn esiampl dda'
Cafodd y gwneuthurwr ffilm, Dr Lee Salter, sy'n defnyddio'r enw 'Unsound Robin' yn y ffilm, ddedfryd o 22 wythnos o garchar gohiriedig am 18 mis wedi iddo ymosod ar ei bartner.
Cafodd hefyd orchymyn i gwblhau 150 awr o waith di-dâl, yn ogystal â gorchymyn yn ei atal rhag cysylltu ag Allison Smith.
Dywedodd Ms Smith wrth BBC Cymru: "Dwi ddim yn siŵr a fyddai Cynulliad Cymru eisiau bod yn rhan o rywun sy'n defnyddio ffilm fel llwyfan i daenu'r syniad fod dioddefwyr yn dweud celwydd.
"Dydy hynny ddim yn gosod esiampl dda. Dwi ddim yn meddwl y byddai unrhyw brifysgol neu gwmni cyfreithiol yn hapus i fod yn rhan o hynny.
"Mae'n ymddangos fod rhai wedi ei amddiffyn ac yn colli'r pwynt sy'n cael ei wneud."
Fe wnaeth Allison Smith a Dr Salter gwrdd ar ddiwrnod anwytho ym Mhrifysgol Sussex, lle roedd yn ddarlithydd cyfryngau a chyfathrebu.
Ar 13 Gorffennaf 2016, fe wnaeth Llys Ynadon Brighton ganfod Salter yn euog o ymosod drwy guro ac achosi difrod troseddol i eiddo.
'Ffilm am garchar'
Dywedodd datganiad ar ran Mr Salter: "Cafwyd Lee Salter yn euog o drosedd, ac mae wedi ei gosbi'n llym a'i adfer.
"Fe wnaeth e'r ffilm, fel troseddwr, am garchar a'r anawsterau y mae pobl sydd wedi eu barnu'n euog yn eu hwynebu wrth geisio adeiladu bywydau positif, fel mae'r ymgyrch ddifenwi yn y cyfryngau yn profi.
"Nid yw'r ffilm yn ymwneud ag ef na'i achos, ac nid yw'r naill na'r llall wedi cael eu trafod yn y sgriniau erioed.
"Dyma ddangosiad o ffilm gan droseddwr anhysbys sy'n dweud ei fod yn droseddwr, am droseddu, i gynulleidfa sydd eisiau gweld ffilm gan droseddwr am droseddu."
Dydy hi ddim yn glir a siaradodd Dr Salter yn y digwyddiad.
Dywedodd Neil McEvoy AC: "Cefais wahoddiad gan aelodau Plaid i gynnal y ffilm Injustice, sy'n ymchwilio i gyflwr difrifol carchardai, yn y Senedd, ar ôl ei weld ym Mhrifysgol De Cymru. Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i ymgyrchu dros gefnogi dioddefwyr trais yn y cartref."
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad: "Mae'r canllawiau cyffredinol yn ymwneud â defnyddio'r ystâd yn nodi'n glir na ddylai digwyddiadau, arddangosfeydd neu ddeunydd allai beri loes gael eu cynnal ar dir y Cynulliad.
"Yn y pen draw, yr Aelod Cynulliad sy'n noddi'r digwyddiadau sy'n gyfrifol."