Achos alltudiaeth 'yn ganlyniad i geisio cyrraedd targedau'
- Cyhoeddwyd
Ymdrechion i gyrraedd targedau oedd y tu ôl i fygythiad i anfon myfyriwr o Brifysgol Bangor o'r Deyrnas Unedig, medd un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru.
Daw sylwadau Hywel Williams AC wedi iddi ddod i'r amlwg fod timoedd ymfudo wedi gosod targedau ar gael pobl - yr oedd hi'n ymddangos nad oedd hawl ganddyn nhw i aros yn y DU - i adael o'u gwirfodd.
Dywedodd wrth Aelodau Seneddol fod Shiromini Satkunarajah wedi ei chadw mewn ganolfan ymfudo am ei bod hi'n hawdd i'w thargedu.
Cyfaddefodd yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd fod "targedau lleol" wedi eu gosod.
Wrth herio Ms Rudd yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Mr Williams ei fod yn achos penbleth pam fod Ms Satkunarajah wedi ei chadw yng nghanolfan Yarl's Wood yn Sir Bedford ym mis Chwefror 2017.
"Mae'n ymddangos fod yr ateb nawr yn glir," meddai.
"Roedd hi o dras Tamil a ddihangodd o Sri Lanka yn blentyn, a roedd hi'n adrodd i orsaf heddlu fel yr oedd gofyn iddi wneud yn gyfreithiol, roedd hi'n gwneud ei dyletswydd yn gyfreithiol.
"Beth mae'r Ysgrifennydd Cartref nawr yn ei wneud i gywiro'r cam gafodd ei wneud i'r rhai sydd ddim o'r genhedlaeth Windrush, ond sydd â'u bywydau wedi eu tarfu wrth i'r Swyddfa Gartref geisio cyrraedd targedau?"
Cafodd yr ymdrechion i anfon Ms Satkunarajah a'i mam Roshina o'r wlad eu hatal, wedi i AS Arfon ymyrryd yn y mater.
Dywedwyd wrth Aelodau Seneddol ar y pwyllgor materion cartref fod rheolwyr lleol yn gorchymyn staff i chwilio am yr achosion hawsaf i gael gafael arnyn nhw wrth gwrdd a thargedau.
Yn ei hymateb i Mr Williams, dywedodd Ms Rudd nad dyna'r agwedd roedd hi eisiau i unrhyw un yn y Swyddfa Gartref ei gael.
"Dwi wedi dweud, o ganlyniad i newidiadau Windrush, dwi'n gwneud yn siwr fod gan y Swyddfa Gartref wyneb mwy dynol, felly dwi'n sefydlu canolfan gyswllt newydd, dwi'n gwneud yn siwr bod gweithwyr mwy profiadol ar gael i sicrhau fod gan weithwyr llai profiadol yr hyder i wneud pendefyniadau drwy gyfathrebu gyda rhywun sy'n brofiadol iawn.
"Dwi'n derbyn bod angen gwneud y Swyddfa Gartref yn fwy personol a dyna fydda i'n ei wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017