Comisiwn yn ymchwilio i wariant Awyr Las 'ar frys'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Google

Mae'r Comisiwn Elusennau yn ymchwilio i wariant elusen bwrdd iechyd gogledd Cymru yn dilyn pryderon am gamddefnyddio arian.

Dywedodd llefarydd ar ran y comisiwn eu bod yn ymchwilio i achos Awyr Las "fel mater o frys".

Roedd galw ar yr elusen iechyd i wahodd ymchwilwyr i weld os yw'r arian y maen nhw'n ei gasglu i gefnogi gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei gamddefnyddio.

Yn ôl Awyr Las, cafodd yr holl wariant ei graffu gan y Charitable Funds Advisory Group er mwyn sicrhau ei fod yn glir ac yn agored.

'Cyflawni dyletswydd'

Mae Awyr Las yn defnyddio'r rhoddion ariannol y mae'n eu derbyn i brynu pob math o offer a chyfleusterau.

Daeth BBC Cymru i wybod eu bod nhw hefyd wedi cytuno i dalu £450,000 am raglen i wella'r berthynas rhwng rheolwyr a staff.

Wrth drafod yr ymchwiliad, dywedodd llefarydd y Comisiwn Elusennau eu bod yn "ymwybodol o bryderon am wariant Awyr Las".

"Pwrpas yr ymchwiliad yw penderfynu os yw'r elusen wedi cyflawni ei ddyletswydd fel ymddiriedolwr, ac wedi gweithredu er lles yr elusen."

'Cwbl agored'

Cafodd y gwariant ei graffu gan y Charitable Funds Advisory Group, sy'n cynnwys aelodau o'r gymuned, cleifion a chynrychiolwyr staff, cyn cael ei gyhoeddi, meddai Awyr Las.

Dywedodd yr elusen fod hyn yn un ffordd y maent yn sicrhau fod gwariant a dosbarthiad cyllid yn gwbl agored.

Mae Awyr Las yn pwysleisio nad oes unrhyw roddion a wnaed tuag at wardiau neu adrannau penodol wedi eu rhoi tuag at y rhaglen i wella'r berthynas rhwng rheolwyr a staff.

Does dim arwydd pa bryd fydd canlyniadau'r ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi.