Plac yn dathlu camp rhyfeddol rasiwr cychod modur cyflym

  • Cyhoeddwyd
plac

Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio ger y cei yn Aberteifi ddydd Gwener i nodi llwyddiant rhyfeddol dyn lleol yng nghamp rasio cychod modur cyflym yn ystod y 1980au a'r 1990au.

Bu Jonathan Jones yn bencampwr y byd bedair gwaith.

Roedd yn bencampwr Fformiwla 1 y Byd ym 1991 a 1998 a hefyd yn bencampwr Formula Grand Prix ym 1986 a 1989.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn teimlo'n "wylaidd" ac yn "gegrwth" pan glywodd am yr anrhydedd.

Roedd nifer o bobl oedd ynghlwm â'r syniad, meddai, wedi "dechrau rasio 'da fi ar Afon Teifi".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jonathan Jones iddo gael sioc o glywed am yr anrhydedd

Mudiad Hoelion Wyth wnaeth benderfynu gosod y plac ger Afon Teifi i gydnabod llwyddiant y dyn lleol wnaeth serennu yn un o'r campau mwyaf peryglus ar y dŵr.

Fe all cychod F1 gyrraedd cyflymder o 155mya, ac maen nhw'n medru cyflymu o 0-60mya mewn 2 eiliad.

Dywedodd Mr Jones: "Pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn yr ysgol yn chwarae rygbi ac ati, oll o'n i am ei wneud oedd rasio beiciau modur neu rasio cychod modur cyflym."

Ar ôl cychwyn ei yrfa yn rasio ar Afon Teifi, ac yna cystadlu ar lefel Brydeinig, roedd symud i Fformiwla 1, meddai, "yn gam anferthol... mi gymrodd ddwy neu dair blynedd i ddod i arfer ag e a bod yn gystadleuol."

'Dim trafferth codi arian'

Yn ôl Dai Williams o gangen Hoelion Wyth Aberporth, sydd wedi bod yn casglu arian ar gyfer y plac gan unigolion a busnesau lleol, mae hi'n "gywilydd" nad oes unrhyw beth yn y dref yn barod i nodi llwyddiant y dyn lleol.

"Fe gafodd e lwyddiant arbennig yn ei gamp," meddai, gan ychwanegu bod yna "ddim trafferth wedi bod i gael arian gan unigolion a busnesau. Mae Clwb Cychod Aberteifi hefyd wedi cyfrannu yn hael."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jonathan Jones yn bencampwr byd bedair gwaith yn un o'r campau mwyaf peryglus ar y dŵr.

Mae Eurfyl Lewis o fudiad yr Hoelion Wyth yn dweud bod ennill pencampwriaeth y byd bedair gwaith yn "dipyn o gamp".

Dywedodd Mr Jones fod nifer o bobl ardal Aberteifi wedi ei helpu fel rhan o'i dîm i lwyddo ar lefel uchaf y gamp.

Ers ymddeol fel gyrrwr ar ddiwedd y 1990au, mae Jonathan Jones wedi datblygu busnes yn adeiladu cychod cyflym Fformiwla 1.

Mae hefyd yn gwneud celfi o froc môr ar ôl ymddeol fel gweithiwr banc.

Cafodd y plac ei ddadorchuddio gan yr Aelod Sendddol lleol, Ben Lake mewn seremoni arbennig ar lannau Afon Teifi fore Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Jones o flaen y plac fore Gwener