Llanelli a Chaernarfon yn dathlu dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair
- Cyhoeddwyd
Bydd dau o glybiau enwocaf cynghreiriau Cymru yn dychwelyd i'r Uwch Gynghrair y tymor nesaf, gyda Llanelli a Chaernarfon wedi sicrhau dyrchafiad.
Gyda'r ddau glwb wedi disgyn i drydedd adran cynghreiriau Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl, mae hi wedi bod yn ffordd bell yn ôl i'r Uwch Gynghrair i'r ddau dîm.
Er bod Bangor wedi derbyn newyddion drwg yr wythnos yma ar ôl methu â chael trwydded i chwarae yn y gynghrair y tymor nesaf, roedd hi'n newyddion da i eraill.
Fel y Dinasyddion, ni lwyddodd Llanelli i gael trwydded ddomestig ar y cynnig cyntaf, ond roedd lle i ddathlu ddydd Iau wrth glywed bod eu hapêl wedi bod yn llwyddiannus.
Er bod ganddyn nhw ddwy gêm yn weddill, mae'r clwb eisoes wedi sicrhau mai nhw fydd pencampwyr Cynghrair y De y tymor yma.
"Mae'n hwb enfawr i'r clwb. 'Dyn ni wedi gweithio'n galed iawn dros y pum mlynedd diwethaf ers i ni, i bob pwrpas, orfod dechrau o'r dechrau," meddai Neil Dymock, ysgrifennydd Llanelli.
"Mae mynd o'r drydedd adran i'r Uwch Gynghrair yn wobr am yr holl waith sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r lleni, yn ogystal ag ar y cae.
"Ond dy'n ni ddim yn twyllo ein hunain, mae'r gwaith caletaf yn dechrau nawr - adeiladu clwb cynaliawdwy."
Canolbwyntio ar yr academi
Ychwanegodd mai gobaith y clwb, sydd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru unwaith yn 2007-08, yw sicrhau bod dyfodol i'r clwb trwy'r academi.
"Mae'n bwysig i dref Llanelli bod gennym ni dîm ar lefel ucha' pêl-droed yng Nghymru," meddai Mr Dymock.
"Mae gennym ni dros 200 o blant yn ein hacademi, ac rwy'n meddwl mai'r dyfodol i'r clwb yw cael rhai o'r rheiny trwodd i chwarae i'r tîm cyntaf."
Daeth tymor Caernarfon i ben nos Wener gyda gêm gyfartal yng Ngresffordd, gyda'r Cofis yn bencampwyr Cynghrair Undebol Huws Gray gan golli dim ond unwaith trwy'r flwyddyn.
Nhw oedd pencampwyr y gynghrair hon ddwy flynedd yn ôl hefyd, ond doedd dim dyrchafiad y tro hwnnw am eu bod wedi methu sicrhau trwydded i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
Dim derbi yn 'siomedig'
"I'r clwb mae'n meddwl bob dim, mae 'di bod yn naw mlynedd dwi'n meddwl ers i Dre fod yn Uwch Gynghrair Cymru tro diwetha'," meddai'r capten Nathan Craig.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n tyfu fyny, tua wyth oed, yn ball boy tu ôl i'r gôl pan oedd Caernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru, a dwi'n cofio awyrgylch y gemau yn erbyn Bangor a ballu ar Ddydd San Steffan a Dydd Calan.
"Mae'r clwb yn barod ac mae gennym ni chwaraewyr sy'n ddigon da i berfformio ar lefel uwch."
Er bod Caernarfon a Bangor yn hen elynion, mae Craig yn credu ei bod yn siom na fydd y ddau dîm yn cwrdd yn y gynghrair y tymor nesaf.
"Mae pawb yn gwybod y rivalry rhwng Caernarfon a Bangor - dydy'r ddau ddim yn licio'i gilydd - ond pan mae'r gemau'n cael eu chwarae mae'r atmosffer mor sbeshal, mae'n dod â rhywbeth gwahanol i'r gêm ac i'r Uwch Gynghrair.
"Mae o bach yn siomedig bod nhw heb [sicrhau trwydded ddomestig], ond ar ddiwedd y dydd gaethon ni ddim mynd fyny dwy flynedd yn ôl achos wnaethon ni ddim cyrraedd y criteria, ac maen nhw yna am reswm.
"'Da ni'm yna i neud y niferoedd fyny a 'da ni'm yna i fynd syth 'nôl lawr, felly fyddan ni yn gystadleuol a fyddan ni'n neud siwr ein bod ni'n anodd i chwarae yn ein herbyn."
Roedd gan glwb arall reswm dathlu yn dilyn penderfyniad y corff trwyddedu ddydd Iau hefyd, gyda Chaerfyrddin wedi'u hachub rhag disgyn i'r ail adran am fod Bangor wedi methu cael trwydded.
"Mae pethau wedi mynd yn anghywir ar ac oddi ar y cae y tymor yma, ond rydyn ni wedi cael ail gyfle ac yn edrych 'mlaen i wynebu her newydd," meddai un o gyfarwyddwyr yr Hen Aur, Gareth Jones.
"Mae 'na statws yn dod â bod yn y gynghrair yma. 'Ni di bod 'na ers dros 20 mlynedd a byddai'n dorcalonnus mynd lawr i'r gynghrair is, ble mae'n anodd iawn dod 'nôl lan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2018