Cytuno i redeg Melin Llynnon ar golled

  • Cyhoeddwyd
Melin Llynnon
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Melin Llynnon ei chodi yn 1775 ac mae'n dal i falu gwenith hyd heddiw

Bydd melin wynt ar Ynys Môn yn derbyn cymorth ariannol gan gyngor y sir am flwyddyn arall, er nad yw hi'n gwneud elw.

Roedd Cyngor Môn wedi bwriadu gwerthu Melin Llynnon yn Llanddeusant, sy'n atyniad i dwristiaid yn ogystal â bod yn felin weithredol, ond fe fethon nhw â dod o hyd i brynwr.

Fore dydd Llun, fe glywodd aelodau Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn y bydd y gost o gynnal a chadw'r felin am flwyddyn arall yn £66,800, a dim ond £24,760 o elw fydd i'w ddisgwyl.

Fe benderfynodd aelodau gadw'r felin i fynd am flwyddyn arall, neu nes y bydd y busnes yn cael ei drosglwyddo i ofal rhywun arall.

Safle 'eiconig'

Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones wrth y pwyllgor ei bod hi'n "bwysig bod y felin yn aros ar agor ac os oes yn rhaid i'r cyngor dalu amdani am flwyddyn arall, dyna ni".

"Mae sefyllfa Melin Llynnon yn unigryw," meddai, "ac mae'n safle eiconig ar yr ynys."

Ond roedd cynghorwyr eraill, gan gynnwys Carwyn Jones, yn anfodlon cefnogi'r atyniad yn ariannol am fwy na blwyddyn.

Fe gadarnhaodd swyddogion o'r cyngor y bydd y felin yn cael ei rhoi ar y farchnad unwaith eto, yn y gobaith y gallai gael ei throsglwyddo i ofal grŵp cymdeithasol neu fusnes preifat.

Ffynhonnell y llun, Anglesey Council

Beth ydy hanes Melin Llynnon?

Hi ydy'r unig felin yng Nghymru sy'n dal i fod yn felin weithredol. Cafodd ei hadeiladu yn 1775, ac mae hi'n dal i gynhyrchu blawd cyflawn wedi ei falu o wenith organig.

Ar y safle hefyd mae amgueddfa amaethyddol a dau dŷ crwn o'r Oes Haearn.

Ar un adeg roedd 50 o felinau ar yr ynys, a'u gallu i gynhyrchu ceirch a haidd roddodd i'r sir yr enw Môn Mam Cymru.