Dyn gerbron Llys y Goron wedi marwolaeth mam i dri
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed wedi ymddangos gerbron Llys y Goron i wynebu cyhuddiad o lofruddio mam i dri o blant, Hollie Kerrell.
Cafodd corff Mrs Kerrell ei ganfod ddydd Iau gan swyddogion oedd yn chwilio amdani, a'i adnabod yn ffurfiol ddydd Gwener.
Ymddangosodd ei gŵr, Christopher Llewellyn Kerrell yn Llys y Goron Caerdydd brynhawn Llun. Ni wnaeth gyflwyno ple gerbron y barnwr Neil Bidder QC.
Mae disgwyl iddo bledio yn y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 29 Mai.
Fe fydd yr achos yn dechrau ar 22 Hydref, ac fe gafodd Mr Kerrell ei gadw yn y ddalfa tan ddiwedd Mai.
'Caru bywyd'
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Ond maen nhw'n annog unrhyw un welodd Ms Kerrell, 28 oed, ar ôl 17:00 ddydd Sadwrn i gysylltu â nhw.
Yn rhoi teyrnged iddi ddydd Gwener, dywedodd teulu Ms Kerrell - ei mam, tri o blant a phum chwaer - ei bod yn "brydferth ac yn caru bywyd".
"Doedd dim un moment diflas gyda'n Hollie doniol ni o'ch cwmpas," meddai'r teulu mewn datganiad.
"Hi oedd y glud oedd yn dal ein teulu at ei gilydd a byddwn yn ei cholli'n ofnadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018