Agor cwest i farwolaeth dynes oedrannus yn Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth menyw oedrannus yn Aberaeron gafodd ei chanfod mewn tŷ yn y dref fis Mawrth.
Cafodd yr adeilad ei chwilio gan Heddlu Dyfed Powys ym mis Mawrth, wedi pryder am les dwy fenyw yn yr ardal.
Daeth swyddogion o hyd i gorff yn y tŷ.
Mewn ymchwiliad gafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu fel un "cymhleth", cafodd menyw arall ei chludo i'r ysbyty.
Cafodd corff Gertrude Jones, oedd yn 83 oed, ei adnabod yn ddiweddarach drwy dystiolaeth DNA.
Penderfynodd prif grwner Ceredigion, Peter Brunton, ohirio'r cwest am y tro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018