Canlyniadau 'syfrdanol' cynllun hidlo dŵr o fwyngloddiau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Mike Rattenbury o'r cwmni mae'r cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant

Mae cynllun peilot i atal dŵr o hen fwyngloddiau rhag llygru afonydd wedi cynnig canlyniadau "syfrdanol", yn ôl swyddogion amgylcheddol.

Gan ddefnyddio techneg arloesol, cafodd llaid metalig ei wahanu o'r hylif sy'n dod o lofa gan adael dŵr glân.

Fe lwyddodd y dechnoleg newydd - y cyntaf o'i bath yn y byd - i gael gwared ar 99.5% o'r metalau sy'n effeithio ar ansawdd dŵr.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae'n "gam ymlaen" o ran taclo'r broblem drwy'r wlad.

Hidlo

Gyda llygredd o fwyngloddiau yn broblem fyd-eang, mae datblygwyr y system wedi dweud eu bod wedi derbyn ymholiadau yn barod o Indonesia ac Awstralia.

Bu gwyddonwyr yn arbrofi â'r dechneg newydd ar ran o Afon Rheidol ger Aberystwyth yng Ngheredigion.

Mae'r ardal, â'i chronfa ddŵr prydferth, ei thrên stem a'i barcutiaid coch, yn boblogaidd â thwristiaid.

Ond roedd hi unwaith yn gartref i lofeydd oedd yn cynhyrchu plwm a sinc sydd bellach yn arllwys dŵr asidig, oren i'r afon islaw.

Dros gyfnod o flwyddyn mae wyth tunnell o fetelau gan gynnwys sinc, cromiwm a chadmiwm yn cyrraedd Afon Rheidol, gan wasgaru am 18km o'i hyd a lladd pysgod a bywyd gwyllt eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Y peiriant sydd wedi'i ddatblygu gan Power and Water i hidlo'r dŵr

Ers yr 1960au mae'r dŵr llygredig wedi'i gasglu mewn pyllau mawrion ar lan yr afon er mwyn ceisio hidlo'r metalau allan ohono, gyda chanlyniadau'n gymysg.

Yn fwy diweddar, mae trin y dŵr gyda chyfuniad o gompost, carreg galch a chregyn cocos wedi bod yn fwy effeithiol.

Ond byddai angen lot fawr o dir er mwyn gwneud hynny ar raddfa ddigonol i atal y llygredd yn llwyr, a chan fod y dyffryn yn gul a'r llethrau'n serth dyw hynny ddim yn bosib.

Felly gofynnodd CNC i gwmnïau technoleg eu helpu i ddatblygu ateb arloesol i'r broblem.

'Cyffrous'

Yn ôl Peter Stanley, sy'n arbenigwr ar lygredd dŵr a thir gyda CNC, y fantais fawr sydd gan y system newydd gafodd ei dreialu yw nad oes angen llawer o le.

Mae'r peiriant trin dŵr - sydd tua'r un maint â char - wedi'i gysylltu â generadur bach. Mae'r system yn sugno dŵr brwnt sy'n cael ei arllwys o'r lofa ac yn pasio cerrynt trydanol drwyddo.

Gan ddefnyddio cyfuniad o electrolysis ac uwchsain mae'n arwain at adwaith cemegol sy'n gwahanu'r metalau trymion, addasu pa mor asidig yw'r hylif ac yn galluogi i ddŵr glân gael ei bwmpio yn ôl i'r afon.

O ran y llaid metalig sy'n weddill, mae modd gwerthu hwnnw neu ei waredu'n ddiogel.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Peter Stanley o CNC fod y datblygiad yn "arf arall" wrth drin llygredd

"Pan ry'n ni wedi hidlo'r samplau ry'n ni wedi bod yn gweld bod 99.5% o'r metalau wedi mynd, a hynny'n ganlyniad syfrdanol," eglurodd Mr Stanley.

"Dwi ddim yn gwybod sut allen i fod yn fwy cyffrous ynglŷn â'r canlyniadau yma.

"Mae'n rhoi arf arall i ni o ran trin y llygredd yma o fwyngloddiau yn fwy effeithiol - yn enwedig mewn amgylchiadau serth, heriol fel yng Nghwm Rheidol."

'Afonydd heb bysgod'

Mae'r datblygwr - cwmni Power and Water o Abertawe - wedi derbyn patent byd-eang ar gyfer y dechnoleg, yn y gobaith o allu ei gyflwyno i hen fwyngloddiau eraill yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot.

"Yr wythnos hon yn unig ry'n ni wedi derbyn diddordeb gan ymgynghorwyr yn Sumatra ac Awstralia, yn ogystal ag ymholiadau o lofeydd yn Lloegr a'r Alban hefyd," meddai'r prif weithredwr Gareth Morgan.

"Nid yn unig y'n ni'n edrych i drio cael ateb sydd yn mynd i fod yn fuddiol o ran y mwyngloddiau hanesyddol yma yng Nghymru, ond mae'r potensial i allforio hyn y tu allan i'r wlad yn gyffrous hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw ceisio lleihau faint o lygredd o'r hen lofeydd sydd yn canfod eu ffordd i'r afonydd

Mae CNC bellach yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio piben sy'n cludo dŵr o'r lofa i gynhyrchu ynni adnewyddadwy - er mwyn talu costau'r generadur.

Am broblem sydd "ar ei waethaf yn arwain at afonydd heb bysgod a llystyfiant sydd wedi'i ddirywio... mae hyn o bosib yn gam mawr ymlaen," esboniodd Mr Stanley.

Roedd cloddio am fetel wedi cyrraedd ei anterth yn y 19eg ganrif, ac er bod pob un ohonyn nhw wedi cau erbyn hyn mae eu heffaith ar yr amgylchedd yn dal i'w deimlo.

Mae gan Gymru 1,300 o hen fwyngloddiau, gan effeithio ar dros 600km o afonydd.

O'r 10 afon sydd wedi'u taro waethaf ym Mhrydain, mae naw ohonyn nhw yng Nghymru.