Gwrthdrawiad Casnewydd: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn ifanc wedi eu cadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen ynadon Casnewydd mewn cysylltiad â digwyddiad ar un o strydoedd y ddinas fore Sul pan gafodd pedwar o bobl eu hanafu gan gerbyd.
Mae McCauley Cox, 18 oed ac o ardal Ringland y ddinas, yn wynebu dau gyhuddiad o geisio llofruddio ac un o yrru'n beryglus.
Mae Benjamin Thomas, 19 oed ac o ardal Somerton, Casnewydd, wedi ei gyhuddo o achosi ffrwgwd.
Mae disgwyl i'r ddau ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ddiwedd y mis.
Yn ystod yr ymddangosiad fe wnaeth Mr Cox ond siarad er mwyn cadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.
Clywodd y llys ei fod yn bwriadu pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac fe gafodd cais am fechnïaeth ei wrthod.
Cafodd ei arestio yn dilyn digwyddiad rhwng car a cherddwyr ar Ffordd Cambrian am 5:30 fore Sul..
Mae dwy fenyw yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Fe gafodd un o'r menywod anaf difrifol i'w dueg (spleen), ac mae hi hefyd wedi cael llawdriniaeth ar ei ffêr.
Mae'r ddynes arall mewn ysbyty yn Birmingham ar ôl dioddef llosgiadau a niwed i'r nerfau. Clywodd y llys fod ei braich hefyd wedi torri.
Cafodd dau berson arall, dyn 19 oed a menyw 22 oed o Gasnewydd, eu harestio ar ôl y digwyddiad ond maen nhw wedi cael eu rhyddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.