Swyddog heddlu'n wynebu cael ei diswyddo am yfed a gyrru

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae swyddog heddlu'n wynebu cael ei diswyddo am yfed a gyrru i'w gwaith yng Ngorsaf Heddlu Abertawe.

Roedd y cwnstabl Sara Morris, 47, dros ddwywaith y trothwy yfed a gyrru pan gyrhaeddodd hi'r gwaith toc cyn 07:00 ar 21 Ebrill.

Cafodd brawf anadl gan ei chydweithwyr yn yr orsaf, ac yna'i harestio yn y fan a'r lle.

Dywedodd Morris ei bod wedi yfed potel o win y noson gynt, ond ei bod yn meddwl y byddai'r alcohol wedi gadael ei system erbyn y diwrnod wedyn.

'Difaru'n fawr'

Dywedodd yr erlyniad bod swyddogion wedi gweld Morris yn parcio, a phan siaradodd swyddog â hi "doedd hi ddim ei hun".

Pan gafodd brawf anadl roedd ganddi 83 microgram o alcohol mewn 100ml o anadl. Y trothwy cyfreithiol yw 35 microgram.

Clywodd Llys Ynadon Llanelli fod Morris wedi bod yn swyddog gyda Heddlu De Cymru ers 23 mlynedd, a bod ganddi record lân.

Fe wnaeth Morris gyfaddef cyhuddiad o yfed a gyrru, a dywedodd Lee Davies ar ran yr amddiffyniad ei bod yn "difaru'n fawr".

Ffynhonnell y llun, Google

Ychwanegodd ei bod yn "wynebu risg sylweddol o golli ei swydd".

Cafodd Morris ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis a chael dirwy o £770. Bydd yn rhaid iddi hefyd dalu costau o £162.

Dywedodd y barnwr fod y digwyddiad yn "gamgymeriad mewn gyrfa sydd fel arall wedi bod yn un da iawn".

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Yn dilyn diwedd y camau cyfreithiol yn ymwneud â Sara Morris, bydd yn achos nawr yn cael ei ystyried gan adran safonau proffesiynol Heddlu De Cymru."