Dynes wedi marw ar ôl llithro ar Glyder Fawr yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae tîm achub mynydd y gogledd wedi dweud bod dynes yn ei 40au wedi marw fore Gwener tra'n cerdded yn Eryri.
Mae'n debyg ei bod yn dod o dde Cymru ac yn gerddwr brwdfrydig.
Cafodd timau achub mynydd Dyffryn Ogwen a'r Fali eu galw yn ystod y bore ac fe gafwyd hyd i gorff y ddynes am tua 09:00 o dan glogwyn uchaf Glyder Fawr.
Roedd ganddi'r offer priodol ac mae'n debyg iddi grwydro oddi ar y llwybr ac yna llithro a chwympo.
Dywedodd y gwasanaethau brys ei bod yn hawdd dod o hyd iddi am ei bod wedi gyrru negeseuon at ffrindiau cyn y digwyddiad.
Cafodd ei hedfan i'r ysbyty ble daeth cadarnhad ei bod wedi marw, ond mae'r corff eto i gael ei adnabod yn ffurfiol.