Cyhuddo dyn 63 oed o lofruddio dynes yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ar ôl i gorff dynes gael ei ganfod mewn tŷ yn Abertawe.
Cafodd corff Leslie Potter, 66, ei ganfod mewn tŷ yn ardal Mwmbwls ar 7 Ebrill.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod Derek Potter, 63, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe i wynebu'r cyhuddiad ddydd Iau.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn llys y goron y ddinas ddydd Mawrth.