Mark Williams yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Mark Williams wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd am y tro cynta ers pymtheng mlynedd.
Mae'r Cymro o Lyn Ebwy wedi bod yn bencampwr byd ddwywaith o'r blaen - yn 2000 a 2003.
Ei wrthwynebydd fydd yr Albanwr John Higgins sydd wedi ennill y bencampwriaeth bedair gwaith.
Fe gurodd Williams ei wrthwynebydd Barry Hawkins o 17-15 ffrâm nos Sadwrn.
Mae Williams yn 43 oed a Higgins yn 42 ac felly enillydd eleni fydd yr hynaf i gipio'r Bencampwriaeth ers i'r Cymro Ray Reardon wneud hynny yn 1978 - roedd e'n 45 ar y pryd.
Ail wynt
Mae'n ymddangos fod gyrfa snwcer Mark Williams wedi cael ail wynt.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dyw e ddim wedi disgleirio ond ar droad y ganrif ef oedd rhif un y byd.
Mark Williams yw'r chwaraewr diwethaf i fod yn bencampwr tair prif cystadleuaeth snwcer ar yr un pryd - sef Pencampwriaeth y Byd, Pencampwriaeth y DU a'r Meistri.
Bydd y gêm derfynol rhwng Williams a Higgins yn cychwyn brynhawn Sul ac yn dod i ben ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018