Cwrs addysg yn 'arf propaganda adain chwith' medd UKIP
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd UKIP yng Nghymru wedi honni bod cwrs addysg yng Nghymru'n cael ei ddefnyddio fel "arf propaganda" sy'n hyrwyddo safbwyntiau adain chwith.
Dywedodd Neil Hamilton fod elfennau o Fagloriaeth Cymru'n bynciau "hynod wleidyddol" a bod angen eu dysgu'n fwy cytbwys.
Ond mynnodd y prif weinidog Carwyn Jones ei fod yn "ymddiried" yn athrawon Cymru i ddysgu pynciau mewn ffordd ddiduedd.
Ychwanegodd fod Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster oedd yn gwneud i ddisgyblion "feddwl am y byd o'u cwmpas".
'Hynod wleidyddol'
Cafodd y fagloriaeth ei beirniadu mewn adroddiad diweddar oedd yn dweud ei bod hi'n gymhwyster "cymhleth" ac "anodd ei deall".
Mae undeb athrawon hefyd wedi rhybuddio bod rhai disgyblion yn gadael addysg Gymraeg er mwyn osgoi gorfod dilyn y cwrs.
Cafodd y fagloriaeth ei chyflwyno gyntaf yn 2007, ac fe gafodd fersiwn diwygiedig ei gyflwyno tair blynedd yn ôl pan ddywedodd Llywodraeth Cymru y dylai pob ysgol a choleg ei darparu.
Mae'n gymhwyster sy'n cynnwys elfen o brofi mentergarwch a sgiliau perthnasol i'r gweithle, yn ogystal â dysgu am faterion byd eang a gwneud gweithgareddau cymunedol.
Ond dywedodd Mr Hamilton fod rhai o'r prifysgolion gorau yn y DU yn gwrthod cydnabod y cwrs, a bod hynny'n rhoi disgyblion o Gymru dan anfantais am nad oedden nhw'n gallu astudio pwnc arall yn ei le.
Mynnodd hefyd fod "pynciau hynod wleidyddol" yn rhan o'r cwrs, gan gynnwys "amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni'r dyfodol, anghyfartaledd, a thlodi".
"Mae angen eu dysgu mewn ffordd gytbwys os nad yw addysg am israddio'i hun," meddai AC UKIP Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth.
Ychwanegodd bod angen "dysgu disgyblion i feddwl yn feirniadol", nid dim ond i "lyncu beth sy'n cael ei ddweud wrthyn nhw", a bod deunydd dysgu Bagloriaeth Cymru i gyd "o natur chwith-ganol".
"Oherwydd eu bod nhw [y chwith] yn rheoli'r system addysg, mae'n cael ei ddefnyddio fel arf propaganda," meddai.
"Dylai rhieni fod yn bryderus iawn... hyd yn oed os yw'r gogwydd yn rhywbeth isymwybodol, mae'n rhaid ei drin fel bygythiad posib."
Wrth ymateb dywedodd Mr Jones: "Dwi'n ymddiried yn ein hathrawon, a dwi hefyd yn ymddiried yn ein disgyblion i allu meddwl yn feirniadol dros eu hunain."
Ychwanegodd bod disgyblion mewn gwledydd eraill oedd yn cael canlyniadau gwell mewn profion fel y rhai PISA yn "gallu pasio arholiadau, ond dwi ddim yn siŵr a yw hynny'n eu paratoi ar gyfer y byd gwaith neu i feddwl am y byd o'u cwmpas".
"Dwi ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth o ogwydd yn cael ei gyflwyno i'n cwricwlwm, a dwi'n meddwl bod e'n bwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i fynd y tu hwnt i bynciau academaidd yn unig achos mae'n eu gwneud nhw'n unigolion mwy cyflawn," meddai.
Fe wnaeth y prif weinidog hefyd gyhuddo Mr Hamilton o gefnogi safbwyntiau gwleidyddol ar newid hinsawdd oedd yn mynd yn groes i "bwysau cyfan [y byd] gwyddonol".
"Mae hynny'n rhoi syniad i ni o beth fyddai e'n hoffi ei weld yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion," meddai.
"Rydyn ni eisiau cydbwysedd, mae e eisiau adolygiadaeth adain dde."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018