Uwch Gynghrair Lloegr: Abertawe 0-1 Southampton

  • Cyhoeddwyd
Manolo GabbiadiniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Manolo Gabbiadini sgoriodd unig gôl y gêm wedi 72 munud

Dyw tynged Abertawe ddim yn eu dwylo eu hunain gydag un gêm yn weddill yn yr Uwch Gynghrair wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Southampton nos Fawrth.

Daeth unig gôl y gêm gan yr ymosodwr Manolo Gabbiadini ar ôl 72 munud, wrth iddo rwydo wedi i Lukasz Fabianski arbed ergyd Charlie Austin.

Roedd gan yr ymwelwyr le i ddiolch i'w golwr, Alex McCarthy hefyd, wedi iddo arbed yn wych o ergyd Jordan Ayew yn yr ail hanner.

Mae'r Elyrch felly'n parhau yn safleoedd y cwymp cyn gêm olaf y tymor gartref i Stoke ddydd Sul.

Mae'r canlyniad yn golygu bod West Bromwich Albion yn disgyn i'r Bencampwriaeth, a bydd un ai Abertawe, Southampton neu Huddersfield yn ymuno â nhw a Stoke yno y tymor nesaf.

Beth nesaf?

Mae Southampton a Huddersfield nawr dri phwynt ar y blaen i Abertawe, a bydd yn rhaid i'r Elyrch drechu Stoke ddydd Sul i gael unrhyw obaith o aros yn yr Uwch Gynghrair.

Bydd tîm Mark Hughes yn croesawu Manchester City ar y diwrnod olaf, tra bod Huddersfield yn wynebu Chelsea nos Fercher ac Arsenal ddydd Sul.

Gobaith gorau'r Elyrch erbyn hyn yw eu bod yn trechu Stoke a bod Huddersfield yn colli eu dwy gêm olaf.

Mae'n annhebygol y bydd y clwb o dde Cymru'n gallu gorffen yn uwch na'u gwrthwynebwyr heno, am fod cyfanswm goliau Southampton nawr naw gôl yn well.

Mae Stoke, sydd ar waelod y tabl, eisoes yn sicr o ddisgyn i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf, ond dyw Abertawe heb ennill yr un o'u wyth gêm ddiwethaf.