Simon Church yn ymddeol o bêl-droed ar gyngor meddygol

  • Cyhoeddwyd
Simon ChurchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyn-ymosodwr Cymru Simon Church wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed oherwydd problem hirdymor gyda'i glun.

Enillodd 38 cap dros ei wlad, yr olaf o'r rheiny yn rownd gynderfynol pencampwriaeth Ewro 2016 yn erbyn Portiwgal.

"Feddyliais i 'rioed y byddai'r diwrnod hwn yn dod, ond ar gyngor meddygol dwi wedi ei dderbyn, dwi nawr yn swyddogol yn rhoi fy esgidiau pêl-droed naill ochr," meddai Church, 29 oed.

Dydy e ddim wedi chwarae ers mis Ionawr, pan arwyddodd gytundeb tymor byr gyda Plymouth Argyle.

'Byw'r freuddwyd'

Ychwanegodd Church: "Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fyw'r freuddwyd o chwarae'n broffesiynol am 11 mlynedd.

"Dwi wedi profi eiliadau y gallwch chi ond breuddwydio amdanyn nhw pan ydych chi'n blentyn.

"Roedd chwarae dros Gymru yn fraint anhygoel. Mae'r hyn ry'n ni wedi ei gyflawni fel tîm yn rhywbeth dwi'n falch iawn o fod yn rhan ohono.

"Dyma'r grwp gorau o fechgyn ar ac oddi ar y cae."

Simon ChurchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Simon Church ei gêm olaf dros Cymru yn erbyn Portiwgal yn Ewro 2016

Yn ystod ei yrfa, chwaraeodd Church dros Reading, Charlton ac Aberdeen, a diolchodd i'r holl glybiau iddo fod yn rhan ohonyn nhw.

Cafodd lawdriniaeth i anaf ar ei glun ym mis Medi 2016 tra'n chwarae i glwb Roda JC yn yr Iseldiroedd.