Cwest newydd i geisio datrys dirgelwch wedi 30 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Brendan DowleyFfynhonnell y llun, RTÉ News
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joseph Dowley hefyd yn cael ei adnabod fel Brendan Dowley

Bydd corff a gafodd ei olchi i'r lan ar un o draethau Ynys Môn dros 30 mlynedd yn ôl yn cael ei ddatgladdu wedi i farnwyr yr Uchel Lys roi caniatâd i gynnal cwest newydd.

Mae yna amheuon mai corff dyn o Iwerddon ydy o - Joseph Dowley, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Brendan Dowley, oedd yn 63 oed ar y pryd ac yn byw yn Llundain.

Does neb wedi ei weld ers iddo ddal bws gyda'r bwriad o deithio ar fferi o Dún Laoghaire i Gaergybi, ar ôl ymweld â pherthnasau yn Kilkenny yn Hydref 1985.

Daeth y corff i'r fei ger Caergybi ychydig wythnosau yn ddiweddarach ond mae'r teulu'n credu bod tystiolaeth newydd yn profi mai Mr Dowley oedd o.

Fe gofnodwyd rheithfarn agored yn y cwest gwreiddiol yn Ionawr 1986.

Creithiau a dannedd coll

Clywodd y gwrandawiad ddydd Mercher fod y corff wedi ei ddarganfod gyda thair craith ar yr abdomen oedd wedi bod yno ers tro, ac roedd nifer o ddannedd ar goll.

Roedd y cwest gwreiddiol wedi diystyrru'r posibilrwydd mai Mr Dowley oedd wedi marw ar ôl i'w wraig, oedd wedi ymwahanu ag o, roi tystiolaeth ei fod heb golli unrhyw un o'i ddannedd.

Ond wrth i berthnasau barhau i ymchwilio i'w ddiflaniad fe glywson nhw gan ddynes oedd yn byw gyda Mr Dowley yn Llundain ei fod wedi colli nifer o'i ddannedd.

Mae cofnodion meddygol yn dangos fod ganddo dair craith ar ei abdomen o ganlyniad i lawdriniaeth.

Roedd yr achos o flaen yr Uchel Lys wedi cais gan grwner presennol Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, i ddileu'r rheithfarn wreiddiol ac ailagor yr ymchwiliad.

'Cysur wedi'r holl flynyddoedd'

Dywedodd y bargyfreithiwr, Anthony Jones y byddai adnabod y corff, gyda chymorth perthnasau Mr Dowley, yn datrys y dirgelwch ynglŷn â'r diflaniad.

"Fe fyddai datgladdiad a phrawf DNA yn hollol resymol," meddai.

Wrth ddyfarnu o blaid cynnal cwest newydd, gan gynnwys "datgladdu ac archwilio'r corff", dywedodd un o'r barnwyr, yr Arglwydd Ustus Holroyde fod y cam yn "angenrheidiol ac yn ddymunol yn enw cyfiawnder".

Dywedodd os yw amheuon y teulu yn gywir mai gweddillion Mr Dowley a gafodd eu darganfod "yna fe fydden nhw yn naturiol yn dymuno ei gladdu yn ei wlad enedigol".

Ychwanegodd: "Rwy'n fodlon fod y dystiolaeth sydd bellach ar gael yn ei gwneud yn wirioneddol debygol fod modd adnabod corff oedd hyd yma heb ei adnabod, ac y bydd modd rhoi rhywfaint o gysur o leiaf i deulu Mr Dowley wedi'r holl flynyddoedd."