UKIP yn herio AC Llafur wedi iddi eu galw'n 'gŵn gwyllt'

  • Cyhoeddwyd
Joyce Watson
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joyce Watson egluro ddydd Mawrth ei bod hi wedi galw ACau UKIP yn "gŵn gwyllt"

Mae AC UKIP wedi galw am ymddiheuriad gan aelod Llafur am awgrymu ei fod wedi dweud celwydd, wedi iddo ei chyhuddo o alw aelodau ei blaid yn "gŵn gwyllt".

Fe gyfaddefodd Joyce Watson ei bod wedi defnyddio'r term mewn dadl gynharach, er ei bod hi wedi gwadu gwneud yr wythnos gynt.

Ond mae Neil Hamilton, arweinydd UKIP yng Nghymru wedi cyhuddo'r Llywydd o beidio â thrin y mater mewn ffordd deg.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywydd ei bod wedi trafod y mater gyda Mr Hamilton ac na fyddai'n "cymryd camau pellach".

Dim hawl i siarad

Roedd Ms Watson, AC Llafur Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi galw ACau UKIP yn "gŵn gwyllt" yn ystod trafodaeth gan y blaid ar leihau cymorth ariannol i wledydd tramor.

Fe gyfeiriodd Mr Hamilton at y sylwadau hynny mewn dadl seneddol cyn gwahardd AC UKIP, Michelle Brown am wythnos am sylw a wnaeth hithau.

Ychydig wedi'r ddadl honno'r wythnos diwethaf, dywedodd Ms Watson fod ganddi'r hawl i "gael fy nadrithio gan gelwyddau sydd wedi dod gan aelod arall, yn fy nghyhuddo o ddweud pethau dwi'n amlwg heb wneud na dweud".

Ond yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd ei "bod wedi defnyddio'r geiriau gafodd eu dyfynnu gan arweinydd grŵp UKIP".

Neil Hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil Hamilton fod ACau UKIP wedi eu ceryddu am ddweud pethau llawer mwy diniwed

Cyn hynny roedd Mr Hamilton wedi ysgrifennu at y Llywydd Elin Jones yn mynnu ymddiheuriad gan Ms Watson am ei gyhuddo o ddweud celwydd, ac am y sarhad.

Ddydd Mawrth dywedodd y Llywydd ei bod wedi trafod y mater â Ms Watson a bod "nunlle arall i fynd â'r peth".

Fe geisiodd Mr Hamilton brotestio, ond gwrthododd Ms Jones droi ei feicroffon ymlaen.

"Fe wnewch chi eistedd ar y pwynt yma achos dydych chi ddim wedi'ch galw i siarad neu wneud cyfraniad pellach i'r pwynt yma," meddai.

'Ddim yn ddiduedd'

Ers hynny mae Mr Hamilton wedi cyhuddo Ms Jones o "gamddefnyddio" ei phwerau, a dweud nad oedd hi wedi trin y mater mewn modd diduedd.

"Mae aelodau UKIP wedi cael eu beirniadu o'r gadair am ddweud pethau llawer mwy diniwed na chymharu pobl i gŵn gwyllt, ond fe wnaeth Joyce Watson ddianc heb unrhyw gosb," meddai.

"Dwi'n meddwl fod gen i'r hawl i wneud y pwynt, fel wnes i ddoe, nad oeddwn i wedi dweud celwydd."

Mae llefarydd ar ran Joyce Watson wedi gwrthod gwneud sylw ar yr alwad am ymddiheuriad.