Cloriau Sbec yn procio'r cof am hen raglenni S4C

  • Cyhoeddwyd

Ers talwm, roedd gan S4C gylchgrawn sgleniog o'r enw Sbec yn llawn gwybodaeth am eich hoff raglenni ar y sianel.

Bob wythnos roedd rhai o selebs Cymru yn serennu ar y clawr neu roedd golygfa o un o raglenni'r sianel yn rhoi rhagflas o'r arlwy oedd i ddod.

Gyda rhaglen Cic Lan yr Archif gyda'r comedïwr Elis James yn dod â'r atgofion yn llifo nôl am raglenni Cymraeg y gorffennol, dyma fwrw golwg ar rai o hen gloriau Sbec o'r 1980au sy'n dod â phersonoliaethau dyddiau cynnar S4C, ac ambell raglen sydd wedi mynd yn angof, nôl yn fyw.

Pwy sy'n cofio rhain?

Elin Rhys a Huw ChiswellFfynhonnell y llun, S4c

Ymhell cyn Ffit Cymru, un o brif raglenni S4C ar y funud, Elin Rhys a Huw Chiswell oedd yn ceisio annog y genedl i fod yn ffit a iach yn yr 1980au.

line
JO Roberts a 'machine gun'Ffynhonnell y llun, S4c

Roedd yr actor JO Roberts yn sbei efo gwn peryglus yn Cysgodion Gdansk.

line
Plant mewn ardal chwarelFfynhonnell y llun, S4c

Tybed ble mae'r plant bach yma erbyn hyn?

line
Jeff Thomas yn Bowen a'i bartnerFfynhonnell y llun, S4c

Cyfres ddinesig wedi ei gosod ar strydoedd Caerdydd oedd Bowen a'i Bartner yn dilyn helynt ditectif preifat oedd yn cael ei actio gan Jeff Thomas.

line
John Ogwen a Dyfan RobertsFfynhonnell y llun, S4c

Ychydig iawn o ddramâu oedd ddim yn cynnwys John Ogwen yn yr 1980au - yma gyda Dyfan Roberts yn y gyfres Minafon.

line
Y brodyr gregory a sioned mairFfynhonnell y llun, S4c

Y Brodyr Gregory yn gwneud dynwarediad hynod o'r brodyr Mario gyda Sioned Mair yn dangos mor ffasiynol oedd leotards yn 1988.

line
Hogia'r Wyddfa gyda phlatied o datwsFfynhonnell y llun, S4c

Cynnwrf - roedd gan Hogia'r Wyddfa 'fideo newydd' i'r gân Tatws Trwy'u Crwyn yn 1986.

line
Siw Hughes, Sue Roderick, Gillian Elisa ac Eirlys ParriFfynhonnell y llun, S4c

Siw Hughes, Sue Roderick, Gillian Elisa ac Eirlys Parri mewn cyfres o'r enw Codi Pais.

line
Margaret WilliamsFfynhonnell y llun, S4c

Roedd cadair fawr wellt Margaret Williams yn gymaint o seren y gyfres â hi.

line
Gwyn LlywelynFfynhonnell y llun, S4c

Gwyn Llywelyn, un o gyflwynwyr y rhaglen gylchgrawn Hel Straeon, 'yn Ysbyty Gwynedd' ar ddydd Gwener.

line
Criw JabasFfynhonnell y llun, S4c

Criw ifanc 'Jabas' a wnaeth Owain Gwilym yn dipyn o eilun i ferched Cymru.

line
Priodas yn DinasFfynhonnell y llun, S4c

Miriam Ambrose ac Elwyn Scourfield yn priodi yn Dinas, opera sebon fawr S4C yn yr 1980au.

line
Gari Williams ac Orig WilliamsFfynhonnell y llun, S4c

Y digrifwr Gari Williams wedi mentro i'r cylch wreslo gydag Orig Williams.

line
Dyn mewn car 'vintage' cochFfynhonnell y llun, S4c

Penwisg a gogls addas i'r gyfres yma.

line
Plant yn cael eu bygwth gyda neidrFfynhonnell y llun, S4C

Nadroedd a balaclafas - beth oedd yn mynd ymlaen fan hyn?

line
Sioned MairFfynhonnell y llun, S4c

Sioned Mair eto - y tro yma'n modelu jumpsuit a hofrennydd.

line