Galw am ddiswyddo cadeirydd Abertawe wrth i Carvalhal fynd
- Cyhoeddwyd
Mae ymddiriedolaeth cefnogwyr Abertawe wedi galw unwaith eto am ddiswyddo'r cadeirydd Huw Jenkins wrth i'r clwb wynebu disgyn i'r Bencampwriaeth.
Mae'r clwb eisoes yn bwriadu rhyddhau'r rheolwr Carlos Carvalhal ar ddiwedd y tymor pan fydd ei gytundeb presennol yn dod i ben.
Mae angen gwyrth ar yr Elyrch bellach i aros yn yr Uwch Gynghrair, a hynny wedi iddyn nhw golli gêm dyngedfennol yn erbyn Southampton nos Fawrth.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth mewn datganiad ddydd Iau fod y clwb "wedi colli ein ffordd ar y cae pêl-droed ac wedi colli ein hunaniaeth bêl-droed".
'Penderfyniadau sâl'
Fe wnaeth canlyniad cyfartal Huddersfield yn erbyn Chelsea nos Fercher fwy neu lai gadarnhau tynged Abertawe, sydd yn 18fed yn y tabl gyda gêm yn weddill.
Mae'n rhaid i'r Elyrch drechu Stoke ddydd Sul a gobeithio bod Southampton yn colli Man City, yn ogystal â goresgyn bwlch o 10 yn y gwahaniaeth goliau, i aros fyny.
Cafodd Carvalhal ei benodi ym mis Rhagfyr i olynu Paul Clement, ac fe gafodd ddechreuad da gyda'r tîm yn colli dim ond dwy o'i 16 gêm gyntaf.
Ond methodd Abertawe â chynnal y rhediad hwnnw, a dydyn nhw bellach ddim wedi ennill mewn wyth gêm gynghrair.
Yn ôl yr ymddiriedolaeth, sydd berchen 20% o gyfranddaliadau'r clwb, mae problemau ehangach na hynny wedi cyfrannu at y clwb yn colli eu statws yn yr Uwch Gynghrair fodd bynnag.
Cafodd yr Elyrch eu prynu gan gonsortiwm o'r UDA yn haf 2016, wedi'u harwain gan yr Americanwyr Jason Levien a Steve Kaplan.
"Fel clwb pêl-droed rydyn ni wedi colli ein ffordd ar y cae pêl-droed ac wedi colli ein hunaniaeth bêl-droed, gan wneud penderfyniadau sâl, fel arfer yn adweithiol, dro ar ôl tro," medd datganiad yr ymddiriedolaeth.
"Dyw ffordd Abertawe o fynd o'i chwmpas hi, oedd yn arfer bod yn destun cryn dipyn o falchder, ddim wedi bodoli ers sbel."
Mae'r grŵp cefnogwyr eisoes wedi galw ar berchnogion Abertawe i "gynnal adolygiad llawn" o'r ffordd mae'r clwb yn cael ei redeg, a dweud nad oes ganddyn nhw ffydd mwyach yn y cadeirydd hir dymor, Huw Jenkins.
"Roedd cyfiawnhâd llwyr i'n pryderon ni, a dyw barn Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ddim wedi newid yn hyn o beth," ychwanegodd y datganiad.
"Mae Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn galw ar y prif gyfranddalwyr i gymryd y cyfle i ddysgu o gamgymeriadau'r blynyddoedd diwethaf a gweithredu'r newidiadau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod ein clwb yn adfer ei hunaniaeth.
"Os nad ydyn ni'n gwneud hynny mae mwy o siawns y bydd y frwydr yn mynd yn anoddach yn hytrach na'n bod ni'n ailgasglu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018