Agor parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones yn agor y parc yn swyddogol
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones yn agor y parc yn swyddogol

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi agor parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru yn swyddogol.

Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), yn dod a busnesau o'r sectorau TGCh, gwyddoniaeth ac ymchwil at ei gilydd er mwyn rhannu gwybodaeth a rhoi hwb i fusnesau.

Mae'r safle 5000 metr, sy'n rhan o Brifysgol Bangor, yn cynnwys labordy, gofod gweithdy a swyddfa ac wedi costio £20m.

Wrth agor y parc gwyddoniaeth yn swyddogol, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Mae'r parc gwyddoniaeth arloesol hwn, a gafodd gymorth ariannol sy'n werth £20m gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, yn enghraifft wych o'r cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor i ysgogi arloesedd, entrepreneuriaeth a thwf busnesau.

"Mae'r parc yn cynnig cymysgedd unigryw o gymorth busnes, menter fasnachol a chymorth academaidd. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cyfuniad llwyddiannus hwn yn parhau i ddenu rhagor o gwmnïau mawr a swyddi uchel eu cyflog i'r Gogledd."