Angel Rangel i adael Abertawe ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Angel RangelFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angel Rangel wedi chwarae 373 o weithiau dros Abertawe dros 11 mlynedd

Wedi 11 mlynedd yn chwarae i glwb pêl-droed Abertawe, bydd Angel Rangel yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.

Mae'r Elyrch wedi penderfynu peidio adnewyddu cytundeb eu capten sy'n 35 oed.

Fe wnaeth Rangel arwyddo i Abertawe yn 2007 ar ôl i'r rheolwr ar y pryd Roberto Martinez ei brynu am £10,000 o glwb Terrassa yn Sbaen.

373 o ymddangosiadau yn ddiweddarach fe allai Rangel chwarae ei gêm olaf i'r clwb ddydd Sul wrth i Abertawe baratoi i wynebu Stoke yn Stadiwm Liberty.

Os am unrhyw obaith i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae'n rhaid i Abertawe ennill a gobeithio bydd Southampton yn colli yn erbyn Manchester City, a bod 10 gôl o wahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Angel Rangel ei fod yn "falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni gyda'r clwb".