Leon Britton i ymddeol o chwarae ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Leon BrittonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd Leon Britton yn ymddeol o chwarae pêl-droed proffesiynol ar ddiwedd y tymor.

Mae'r chwaraewr canol cae wedi sefydlu ei hun fel un o hoelion wyth Abertawe yn ystod ei 16 mlynedd gyda'r clwb.

Fe chwaraeodd Britton 536 o weithiau i Abertawe, gan sgorio 13 gol ers iddo ymuno a'r clwb ar fenthyg o West Ham yn 2002.

Daeth o West Ham ar fenthyg, ond fe enillodd wobr Seren y Tymor i'r Elyrch yn y tymor hwnnw cyn arwyddo cytundeb llawn amser.

Mae Britton yn dipyn o ffefryn ymysg cefnogwyr yr elyrch wedi iddo chwarae rhan flaenllaw yn eu dyrchafiad o'r drydedd adran yr holl ffordd fyny i'r uwch-gynghrair.

Fe dreuliodd Britton ddwy gêm fel rheolwr dros dro yn gynharach yn y tymor hefyd, yn dilyn ymadawiad Paul Clement.

Credai Britton ei fod wedi "gwthio ei gorff i'r eithaf" dros y blynyddoedd, ac ar ôl dim ond pum ymddangosiad y tymor hwn, dyma'r "amser iawn" i orffen.

Gall Britton wneud ei ymddangosiad olaf i'r clwb yn ystod gem olaf y tymor yn erbyn Stoke ddydd Sul.

Llysgennad

Yn y cyfamser mae clwb Abertawe wedi datgelu y bydd Britton yn aros yn Stadiwm Liberty fel un o lysgenhadon y clwb, ochr yn ochr â Lee Trundle.

Dywedodd Leon Britton: "Dwi wrth fy modd i allu aros gyda'r clwb yma.

"Mae'r clwb yma yn rhan anferth o 'mywyd i, ac rwy'n ddiolchgar iawn o gael i cyfle i aros ymlaen.

"Dyma yw fy nghartre' nawr," ychwanegodd.