Cau strydoedd ar gyfer gorymdaith
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr sy'n bwriadu mynychu parti dathlu llwyddiant Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cael rhybudd y bydd nifer o ffyrdd ynghau am fod y ddinas yn cynnal diwrnod di-gar.
Mae'r Cyngor yn gofyn i gefnogwyr ddefnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn cyrraedd mannau i weld yr orymdaith bws sydd wedi ei threfnu er mwyn dathlu dyrchafiad y tîm i'r Uwch Gynghrair.
Mae'r orymdaith yn cychwyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 15:00 ac yn cyrraedd Castell Caerdydd rhwng 16:30 a 17:00.
Cafodd y ffyrdd eu cau am 05:00 wrth i Gyngor Caerdydd fonitro gwelliannau i ansawdd aer trwy gydol y dydd.
Bydd yr orymdaith yn mynd i lawr Heol Lecwydd a drwy brif stryd Treganna tuag at Stryd y Castell.
Yna bydd y rheolwr Neil Warnock a'i chwaraewyr yn cydnabod cefnogwyr y tu allan i gastell Caerdydd.
Mae cwmni Bws Caerdydd hefyd wedi rhybuddio teithwyr y bydd rhai bysiau yn dilyn gwahanol lwybrau o gwmpas canol y ddinas o ganlyniad.
Fe sicrhaodd yr Adar Gleision eu dyrchafiad yn ôl i brif gynghrair pêl-droed Lloegr wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Reading dydd Sul diwethaf.
Bydd y daith yn dechrau ar yr un pryd â gêm dyngedfennol Abertawe yn erbyn Stoke, wrth i elynion Caerdydd geisio aros yn yr Uwch Gynghrair.