Dyn wedi ei dynnu o gar oedd ar dân
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gymryd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei dynnu allan o gar oedd ar dân brynhawn Sadwrn.
Cafodd y dyn ei achub gan seiclwr oedd yn digwydd pasio'r maes parcio cyhoeddus ar Heol Ysbitty, Bynea, Llanelli am 2.45 y prynhawn.
Fe gadarnhaodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod nhw wedi anfon parafeddyg mewn cerbyd brys, ambiwlans a'r ambiwlans awyr i'r safle.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty.
Cafodd y seiclwr ei drin ar y safle gan aelod o staff y Gwasanaeth Ambiwlans.
Mae'r maes parcio yn parhau ar gau i aelodau o'r cyhoedd, ond dydy'r heddlu ddim yn trin yr achos fel un amheus ar hyn o bryd.