Carwyn Jones wedi 'croesawu' ailenwi Ail Bont Hafren

  • Cyhoeddwyd
Pont HafrenFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones gefnogi ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru fisoedd cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud.

Ym mis Ebrill fe wnaeth cyhoeddiad Llywodraeth y DU ddenu beirniadaeth, gyda rhai'n anhapus nad oedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod ynglŷn â'r enw.

I ddechrau dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw wedi "datgan gwrthwynebiad".

Ond mae cais rhyddid gwybodaeth wedi datgelu bod Mr Jones wedi croesawu'r syniad, ac y bydd yn rhan o'r seremoni ailenwi ffurfiol.

Llythyrau

Ym mis Ebrill dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "I gadarnhau, fe wnaeth Alun Cairns ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ynglŷn ag enwi'r bont y flwyddyn ddiwethaf, ac ni wnaethom ddatgan gwrthwynebiad."

Yn ddiweddarach roedd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates yn fwy positif gan ddweud bod llawer o bobl o blaid yr ailenwi.

Ond mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru i Swyddfa Cymru wedi dangos, fisoedd cyn y cyhoeddiad, fod Mr Jones nid yn unig heb wrthwynebu'r cynlluniau ond ei fod wedi eu croesawu.

"Rydw i'n croesawu'r syniad o ailenwi'r bont yn Bont Tywysog Cymru," meddai'r prif weinidog mewn llythyr at Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ym mis Rhagfyr.

"Bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r cynnig ac rwy'n barod i fod yn rhan o'r seremoni ailenwi ffurfiol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Tywysog Charles yn 70 oed ym mis Tachwedd

Yn ogystal â llythyr Mr Jones, mae'r ohebiaeth yn dangos bod Mr Cairns wedi ysgrifennu at Mr Jones ynglŷn â'r cynnig 'nôl ym mis Mawrth y llynedd, 13 mis cyn y cyhoeddiad ffurfiol.

"Dwi wedi bod o'r farn ers sbel nad yw'r enw Ail Bont Hafren yn un sy'n gweddu'r brif fynedfa i Gymru o'r de-orllewin," meddai Mr Cairns.

Mae'r bont yn cael ei hailenwi i gyd-fynd â 50 mlynedd ers arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon, ac mae'n digwydd wrth i Lywodraeth y DU gymryd perchnogaeth o'r pontydd.

Dywedodd Mr Cairns fod Llywodraeth y DU eisiau ailenwi'r bont "i roi teyrnged i'r cyfraniad sylweddol mae Tywysog Cymru wedi'i wneud i'n cenedl".

'Angen eglurdeb'

Mae'r cais rhyddid gwybodaeth yn cynnwys dau lythyr pellach gan Mr Cairns at Mr Jones - ar 23 Medi a 6 Rhagfyr llynedd - yn gofyn am ei farn ar y cynlluniau.

Yn yr ail lythyr mae'n dweud fod Palas St James eisiau "eglurdeb" ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru o blaid y cynnig.

"Rydw i nawr mewn lle ble mae'n rhaid i mi allu rhoi syniad cliriach i'r palas. Rydw i'n gobeithio y gallwch ysgrifennu yn ôl mewn modd cefnogol," meddai Ysgrifennydd Cymru.

Cafodd ateb Mr Jones, oedd yn diolch i Mr Cairns am ei lythyr o fis Medi, ei ysgrifennu ar yr un diwrnod ac ail gais Mr Cairns.