Jack Sargeant AC yn gwadu honiadau yn erbyn ei dad

  • Cyhoeddwyd
Carl a Jack Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Carl Sargeant gyda'i fab Jack, sydd bellach wedi ei olynu fel Aelod Cynulliad

Mae mab y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant wedi gwadu'r cyhuddiadau wnaed yn erbyn ei dad am ei ymddygiad tuag at fenywod.

Cafodd corff Mr Sargeant ei ganfod ym mis Tachwedd, ddyddiau yn unig ar wedi iddo golli ei swydd yng nghabinet y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Dywedodd Jack Sargeant, Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy fod ei deulu yn "sefyll y tu ôl iddo bryd hynny, ac rwy'n dal i wneud nawr."

Yn ôl Mr Sargeant, mae angen i'r ymchwiliad ddechrau i'r hyn ddigwyddodd yn y cyfnod pan gollodd ei dad ei swydd.

Y gred yw i Carl Sargeant ladd ei hun, ddyddiau ar ôl iddo golli ei swydd yn y cabinet, ac ar ôl cael ei ddiarddel o'r blaid Lafur cyn i ymchwiliad gael ei gynnal.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carl Sargeant wedi bod yn weinidog yn y cabinet am bron i ddegawd

Yn gynharach eleni cafodd mab Mr Sargeant, Jack ei ethol i gynrychioli sedd wag ei dad yn y Cynulliad.

Roedd honiadau yn erbyn y cyn-weinidog Cymunedau o "gyffwrdd amhriodol" ac o roi sylw amhriodol i fenywod hefyd.

Dywedodd Mr Sargeant wrth BBC Cymru: "Rydym ni fel teulu, ac fe wnaeth Dad, wadu'r cyhuddiadau."

"Fe wnaeth y Blaid Lafur atal yr ymchwiliad wedi hynny ac rydym ni fel teulu yn credu yn gryf ei fod yn gwadu'r cyhuddiadau."

"Fe safon ni y tu ôl iddo bryd hynny, ac rwy'n dal i wneud nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ei araith gyntaf yn y Senedd dywedodd Jack Sargeant ei fod eisiau "cyfiawnder" ar gyfer ei dad

'Dysgu gwersi'

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r Bargyfreithiwr Paul Bowen i edrych i'r mater, ond nid yw'r ymchwiliad wedi dechrau casglu tystiolaeth eto.

Dywedodd Mr Sargeant: "Rydyn ni hanner blwyddyn yn ddiweddarach ac yn dal i aros am atebion, ac mae angen yr atebion yna er mwyn i rai allu dechrau ar y broses o alaru, ac i eraill allu parhau i alaru".

Yn ôl Jack Sargeant, mae chwe mis yn "amser hir iawn" i aros.

"Dwi'n gobeithio nad oes unrhyw un yn llusgo eu traed, oherwydd mae'n bwysig peidio anghofio fod person wedi marw yma."

"Mae angen dysgu gwersi."

"Fe ddylen ni edrych ar iechyd meddwl... Fe ddylai'r Llywodraeth a'r Cynulliad fod ar flaen y gad ar y pwnc ac mae angen edrych am atebion, mae angen i'r ymchwiliad ddechrau, fel nad yw hyn yn digwydd i deulu arall."

Angen 'chwalu stigma'

Dywedodd mai dim ond "un sgwrs fer" mae wedi ei gael gyda Carwyn Jones, a hynny ar ei ddiwrnod cyntaf yn y Cynulliad. Ond doedd hyn ddim yn ei synnu oherwydd yr ymchwiliad.

Ar ôl holi os oedd yn falch fod Mr Jones yn rhoi'r gorau iddi fel Prif Weinidog, dywedodd Mr Sargeant, "Dwi'n falch fod y teulu Jones yn cael eu tad yn ôl ac yn cael gŵr yn ol, ac mae hynny yw penderfyniad Carwyn."

Ychwanegodd: "Yn anffodus fydda i ddim yn cael Dad yn ôl."

Wrth nodi Wythnos Iechyd Meddwl, dywedodd Jack Sargeant fod angen chwalu'r "stigma" sydd yna ynglŷn â'r pwnc.

Dywedodd fod ei dad yn "mynd drwy amser tywyll iawn ym mis Tachwedd a dros y penwythnos yna".

"Fel dwi wedi ei ddweud, does dim modd gwybod beth sydd yn mynd ymlaen ym mywydau pobl y tu ôl i'r llenni, ac mae'n anodd siarad, dwi'n gwybod hynny o brofiad personol.

"Mae'n hawdd dweud wrth bobl am siarad ond yn anodd siarad am rai pynciau. Os gallwn ni godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a'r pynciau sydd o amgylch iechyd meddwl yna fe fyddai hynny yn rhywbeth adeiladol."

'Dyddiau tywyll'

Dywedodd Mr Sargeant ei fod yn "anodd" iddo ddod i Gaerdydd.

"Mae hi wedi bod yn chwe mis, hanner blwyddyn - amser hir i'r ymchwiliad beidio â dechrau, ond nid yw'n amser hir ar gyfer y broses o alaru."

Fe ychwanegodd, "Yn amlwg mae yna ddyddiau tywyll, maen nhw yn dod mewn tonnau a does neb yn siŵr pryd yn union maen nhw am ddod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gwaith paratoi wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser ac yn mynd yn dda.

"Yn dilyn trafodaethau adeiladol rydym ni yn y camau olaf o gytuno gyda Paul Bowen QC am y manylion ynglŷn â sut bydd yr ymchwiliad yn gweithredu."