Mynd i'r Urdd? Dyma beth i'w ddisgwyl...

  • Cyhoeddwyd

Fyddwch chi'n mynd i Eisteddfod yr Urdd ar faes y Sioe yn Llanelwedd eleni? Ddim yn siŵr o'r drefn neu beth i'w ddisgwyl? Dyma gyngor y fam eisteddfodol broffesiynol, Beth Angell, ar sut i ymdopi ar faes yr Urdd:

Disgrifiad o’r llun,

Peidiwch ag anghofio eich welis!

1. Cloc larwn - Codwch yn fuan. Pa bynnag amser 'da chi'n meddwl ddylech chi godi er mwyn cyrraedd y maes, codwch o leiaf awr cyn hynny. Os ydi'r plant yn ymwneud ag unrhyw gystadleuaeth sydd angen props (ymgom, cân actol etc) codwch ddwy awr ynghynt. (Mae 'na rwbath yn siŵr o fod ar goll neu yn y golch.)

2. Pwyll pia hi (i'r bobl sy'n dod o bell) - Bydd dim dewis gan rai ond aros mewn gwesty cyfagos i'r maes. Dwi wedi 'neud hyn ar sawl achlysur ac mae dau beth yn sicr. Fydd y gwesty ddim mor agos i'r maes â 'da chi'n ddisgwyl ac mi 'newch chi yfed gormod. Dwi'n gwybod y byddwch yn llawn bwriad da o gael glasiad bach dros swper a gwely cynnar. Ond mae aros mewn gwesty yn eich rhoi chi'n yr 'holiday mood'... ond coeliwch fi, nid gwyliau ydi'r steddfod, yn enwedig os oes ganddo chi hangover. Triwch beidio.

3. Dilynwch yr arwyddion melyn i gyrraedd y maes - Maen nhw yna am reswm! Hyd yn oed os ydych chi'n 'nabod yr ardal yn iawn ac yn gwybod lle mae'r maes, mae'r cyngor yma dal yn berthnasol. Mae'r system unffordd wedi ei drefnu i hwyluso'r daith i bawb, a dydi o mond yn cymryd un nionyn i dorri ei gwys ei hun i ddistrywio misoedd o drefnu. Ydach chi 'di clywed am y bobl yn eistedd yn y car am oriau'n trio mynd i faes Eisteddfod yr Urdd Glynllifon? Dwi'n amau mai fy mai i oedd hynna wedi i mi drio cymryd short cut.

4. Map - Wrth i chi groesi trothwy y Neuadd Groeso ar eich ffordd i mewn i'r maes, neith rhywun gynnig map i chi. Er eich bod chi lond y'ch hafflau o ddillad a bagiau a chotiau - cymerwch y map. Hyd yn oed os oes rhaid i'r person ifanc ei ddodi rhwng eich dannedd. Mae'r rhagbrofion mewn nifer fawr o leoliadau ar y maes ac mae nhw i gyd yn anodd i'w ffendio - oni bai fod ganddo chi fap.

Disgrifiad o’r llun,

Defnyddiwch y map - neu ewch ar goll!

5. Bwyd a diod - Ma' nhw'n ddrud ar y maes a 'dach chi'n gwybod fod arian yn mynd i ddiflannu beth bynnag ar geriach, ffair a chrempog. Felly stociwch i fyny ar ddŵr a bwyd. Bydd, mi fydd o'n boen gorfod ychwanegu bag trwm arall ond fe fyddwch chi'n teimlo'n smyg pan ddaw eich cyfaill atoch yn cyhoeddi ei bod hi angen Pay day loan i dalu am y byrger a chips.

6. Tai bach - Fforsiwch eich plant i fynd i'r toilet os welwch chi un heb giw. Dim ots faint ma' nhw'n protestio, peidiwch byth â phasio toilet gwag. Mae nhw'n gallu bod yn brin, yn brysur ac yn bell.

7. Ciwio am Cyw - Gadewch ni fod yn onest, fydd rhan helaeth o'r plantos wedi cael cam a siom cyn cinio. Un ffordd o godi calonnau y rhai bach ydi mynd â nhw i weld sioe Cyw. Ond mae'r tocynnau'n brinach na rhai centre court ar ddiwrnod y ffeinal yn Wimbledon. Os fedrwch chi ddod â'ch sach gysgu a champio tu allan dros nos yna gwnewch, fel arall heglwch hi yna cyn gynted â bo modd, neu nid yn unig y beirniaid yn yr Urdd fydd wedi chwalu breuddwydion y plant y diwrnod hwnnw.

8. Disgwyl canlyniad - Wedi i chi gystadlu'n y rhagbrawf bydd disgwyl eiddgar i gael clywed pwy sydd wedi 'Cael Llwyfan'. Mae ambell un yn hongian o gwmpas tu allan i'r rhagbrawf er mwyn cael gwybod yn syth, ond fy nghyngor i ydi - cerwch o amgylch y maes a mwynhewch eich hunain. Fydd rhywun yn siŵr o adael chi wybod be' sy' wedi digwydd. (Dwi'n cymryd dim cyfrifoldeb os ydi'ch plentyn chi ar y waltzers pan ma' nhw fod ar y llwyfan.)

Disgrifiad o’r llun,

Disgwyl eiddgar tu allan i'r rhagbrawf am 8.15 y bore - gobeithio fydd yr haul yn gwenu yn Llanelwedd!

9. Dillad sbâr - Dwi 'di sôn eisoes am faint o fagiau fyddwch chi'n gorfod eu cario ond wnai fyth anghofio un o'r genod ar y llwyfan gyda 12 o ferched eraill yn canu am Wil Cwac Cwac yn mynd am dro, a phob un ohonynt yn gacen o fwd. Wnes i 'rioed fynd i steddfod wedyn heb ddillad sbâr a gwisg ysgol sbâr hefyd os yn bosib.

A tra dwi'n sôn am ddillad mae angen i chi baratoi at bob tywydd - mae hi'n hollol debygol byddwch yn profi y tymhorau i gyd mewn un diwrnod felly cofiwch got, eli haul, ymbarel a swch eira!

10. Mwynhau - Y peth pwysicaf oll! Ta waeth am ganlyniad na cham, fydd rhywun yn ennill a phawb arall yn colli, dyna'r gwir plaen am unrhyw gystadleuaeth felly peidiwch â phoeni am y peth. Ar ddiwedd y diwrnod, pan fydd y plant yn grwgnach a'ch pocedi'n wag fe wnewch chi yngan y geiriau 'byth eto'. Ond fedrai warantu pan ddaw sôn am ddechrau ymarferion y flwyddyn nesa', oll fydd yn y cof fydd yr atgofion melys o ddiwrnod da.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar BBC Cymru Fyw ym mis Mai 2016.

Hefyd o ddiddordeb: